Cymorth gyda budd-daliadau
Gall ein gwasanaeth cymorth gyda budd-daliadau gynnig cyngor, cyfarwyddyd a chymorth gyda'r fudd-daliadau lles.
Gallwch eich atgyfeirio eich hun neu rywun arall. Os ydych yn atgyfeirio rhywun arall, gwnewch yn siwr eich bod wedi cael caniatâd ganddynt o flaen llaw.
Byddwn yn ceisio cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod o dderbyn eich ffurflen. Os yw eich problem yn un brys, gallwch ddweud hynny ar y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi o fewn cyfnod priodol.
Rydym yn cynnig gwiriad budd-daliadau sylfaenol i weld a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau ychwanegol, a ph'un a ydych yn derbyn y swm cywir yn y budd-daliadau a gewch ar hyn o bryd.
Gallwn hefyd:
- Eich helpu i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau newydd neu fudd-daliadau sydd wedi cynyddu - gan gynnwys ôl-ddyddio hawliadau.
- Eich helpu i herio penderfyniadau i atal budd-daliadau - gan gynnwys cymorth gyda gordaliadau.
- Os na allwn eich helpu, byddwn yn eich atgyfeirio i asiantaeth arbenigol lleol.
Rydym hefyd yn gweithio gyda Macmillan Cancer Support i ddarparu cymorth gydag arian a budd-daliadau i gleifion canser a'u gofalwyr sy'n drigolion ym Mhowys.