Dirwy o £75 i berchennog ci

10 Medi 2018 |
Mae perchennog ci o'r Drenewydd wedi cael dirwy o £75 am fethu glanhau ar ôl i'r ci faeddu ar gae chwarae yn y dref, dywedodd Cyngor Sir Powys.
Gwelodd Swyddog Diogelu'r Amgylchedd o'r cyngor y peth yn digwydd ar y cae pêl-droed i blant ar gaeau Trehafren fis diwethaf (Awst) gan gyflwyno dirwy i berchennog y ci.
Erbyn hyn, mae'r cyngor yn atgoffa perchnogion cwn yn y sir bod rhaid iddynt lanhau ar ôl i'r cwn faeddu a chael gwared ar y gwastraff yn iawn.
Mae'n drosedd gadael i gi dan eich rheolaeth, hyd yn oed os ydych chi'n cerdded ci rhywun arall, i faeddu mewn man cyhoeddus a methu ei lanhau'n syth. Mae mannau cyhoeddus yn golygu llwybrau cerdded, caeau chwarae, meysydd parcio a mynwentydd. Fe allech wynebu dirwy o £75 neu gael eich erlyn.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod Cabinet ar faterion Iechyd yr Amgylchedd: "Mae'n drosedd gadael i gi dan eich rheolaeth, hyd yn oed os ydych chi'n cerdded ci rhywun arall, i faeddu mewn man cyhoeddus a methu ei lanhau'n syth.
"Os ydych chi allan yn cerdded eich ci, dylech bob amser gario bag plastig i godi'r baw yn syth a'i roi yn y bin sbwriel neu fin gwastraff cwn agosaf neu fynd ag ef adre."
Mae'r cyngor yn annog trigolion y sir i roi gwybod am unrhyw achosion o gwn yn baeddu neu broblemau penodol yn eu milltir sgwâr.
Rydym yn gofyn i drigolion anfon e-bost neu ffonio gydag unrhyw broblemau cwn yn baeddu er mwyn sicrhau lle iach a diogel i drigolion, plant ac ymwelwyr.
Trwy roi gwybod am achosion o'r fath, gall y cyngor drefnu i lanhau'r llanast, ymchwilio i ddigwyddiadau a chymryd camau gorfodi yn erbyn perchnogion cwn. Gallwch hefyd ofyn am arwyddion "Dim cwn yn baeddu" a bin sbwriel/baw cwn.
"Rydym yn byw mewn sir brydferth ac rydym am ei chadw felly, ond mae baw cwn yn cael effaith sylweddol ar olwg cymunedau ac rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â'r broblem ym Mhowys", ychwanegodd y Cynghorydd Evans.
"Mae mwyafrif y perchnogion cwn yn gyfrifol ond mae ychydig sy'n dwyn gwarth ar eu cymunedau trwy adael i'r cwn faeddu mewn mannau cyhoeddus. Trwy ofyn i drigolion roi gwybod am achosion o'r fath, gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon"
I roi gwybod am achos o gwn yn baeddu neu i roi gwybod am broblem arbennig yn eich ardal chi, anfonwch e-bost at tls.helpdesk@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827465 neu 0345 602 7035.