Edrych am gyngor a chymorth busnes
Os ydych yn rhedeg busnes ym Mhowys, gallwch fod yn gymwys am gyngor busnes neu gymorth arbenigol i'ch helpu i dyfu eich busnes, cyflogi staff neu i roi TGCh ar waith. Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau cymorth a chynghori yn y sir a gallwn eich cyfeirio at gymorth a chyngor.
Mae Tyfu ym Mhowys Gwasanaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i helpu busnesau lleol, mentrau cymdeithasol, sefydliadau cymunedol ac unigolion. Os ydych yn chwilio am gymorth i ddatblygu menter, yna cysylltwch â ni i gael cymorth a chyngor am ddim.
Am gyngor busnes cyffredinol i fusnesau o bob maint, gall Busnes Cymru can provide information and one to one advice services:
- Helpu busnesau sydd ar gychwyn - lyfrau braslun ag animeiddio, fideos a llyfrau gwaith ar-lein.
- Cymorth i fusnesau sy'n bodoli'n barod
- Parth Cyllid, gyda chronfa ddata Darganfod Cyllid y gellir ei chwilio
- Parth Marchnata Busnes Cymru - yn llawn o ganllawiau defnyddiol a deniadol, offer, fideos, awgrymiadau a thriciau ar bob agwedd ar werthu a marchnata.
- Cylchlythyr Busnes Cymru - y ffordd ddelfrydol i ddysgu mwy am gynhyrchion i gynorthwyo busnesau newydd, digwyddiadau a'r newyddion.
- Darganfyddwr Digwyddiadau Busnes Cymru - defnyddiwch hwn i hyrwyddo'ch digwyddiadau dan eich brand eich hunan, i dderbyn archebion ac i reoli gwybodaeth am fynychwyr.
Croeso i Arwain, Rhaglen LEADER ym Mhowys
Mae Arwain, a arianwyd trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru fel rhan o Gronfa Amaeth Llywodraeth Cymru ac Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys i gyflenwi rhaglen LEADER 2014 - 2020 ym Mhowys.
Mae LEADER yn defnyddio gwybodaeth leol i hyrwyddo datblygu gwledig cymunedol sy'n ddi-fwlch ac yn datblygu o'r gwaelod i fyny.