Cyngor i sefydliadau partner
Mae'r Tîm Safonau Masnach Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda'i bartneriaid yn y sector rheoleiddio, gyda'r nod o gyflwyno cyngor ar faterion penodol o fewn y maes gwerthu tai. Fe fyddwch yn dod o hyd i ddolenni yma i'n cyfarwyddyd diweddaraf a all fod yn ddefnyddiol i gyrff gorfodi a phartneriaid rheoleiddio, ynghyd â phecyn ar arfer gorau a chopi o'n cynllun busnes diweddaraf.
Cyfarwyddyd ar werthu eiddo
Am gyfarwyddyd sy'n ymwneud â Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 a Rheoliadau Diogelu Busnesau rhag Marchnata Camarweiniol 2008 o ran gwaith gwerthwyr tai, gweler ein Cyfarwyddyd ar Werthu Eiddo.
Pecyn Cydymffurfiaeth
Mae ein Pecyn Cydymffurfiaeth Arwerthwyr Tai gan Safonau Masnach yn cynnig arfer gorau, llythyrau enghreifftiol a sefyllfaoedd i orfodwyr tra'n cynnal gwaith cydymffurfiaeth yn lleol.
Cynllun Busnes