Maes parcio arhosiad byr i gau yn Y Drenewydd

14 Medi 2018 |
Mae'r cyngor sir wedi dweud y bydd maes parcio talu ac arddangos cyhoeddus arhosiad byr yng ngogledd Powys yn cau ar ddiwedd y mis.
Bydd maes parcio arhosiad byr Ladywell ar New Street yn Y Drenewydd yn cau fel maes parcio talu ac arddangos cyhoeddus ar ddydd Gwener, 28 Medi.
Bydd rhybudd dros dro yn cael ei godi ar y peiriant talu ac arddangos presennol yn y maes parcio i roi gwybod i ddefnyddwyr fod y maes parcio yn cael ei gau. Bydd defnyddwyr y maes parcio'n cael eu cyfeirio i ddefnyddio meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus eraill i geir ar y Lôn Gefn a Gravel Lane.
Dywedodd y Cyng. Phyl Davies, Aelod o'r Cabinet dros Briffyrdd: "Gofynnwyd i ni ildio'r brydles i'r maes parcio hwn yn gynnar gan y landlord ac rydym wedi cytuno i hyn. Golyga hyn y bydd yn cau fel maes parcio talu ac arddangos cyhoeddus tuag at ddiwedd y mis.
"Bydd y peiriant talu ac arddangos a'r arwyddion yn cael eu tynnu i lawr ar fore dydd Gwener, 28 Medi.
"Er y bydd y maes parcio hwn yn cau, mae digon o fannau parcio i'w defnyddio gan yrwyr yn y ddau faes parcio arhosiad hir yn y dref ar y Lôn Gefn a Gravel Lane.