Trefnu sioeau teithiol ar gyfer Wythnos Ailgylchu 2018

17 Medi 2018 |
Bydd swyddogion ymwybyddiaeth gwastraff o Gyngor Sir Powys yn cynnal sioeau teithiol yn nes ymlaen yn y mis yn rhoi gwybodaeth ar sut i ailgylchu mwy.
Bydd y swyddogion yn ymweld ag archfarchnadoedd a llyfrgell ym Mhowys yn ystod Wythnos Ailgylchu 2018 sy'n cychwyn dydd Llun, 24 Medi.
Nawr yn ei bymthegfed flwyddyn, mae Wythnos Ailgylchu'n dathlu ailgylchu. Nod yr wythnos yw annog pawb i ailgylchu mwy a hefyd i ddangos manteision ailgylchu eitemau o bob rhan o'r cartref.
Bydd y swyddogion ymwybyddiaeth gwastraff yn y mannau canlynol yn ystod Wythnos Ailgylchu:
· Dydd Llun 24 Medi - Tesco, Y Trallwng
· Dydd Mawrth 25 Medi - Tesco, Y Drenewydd
· Dydd Mercher 26 Medi - Llyfrgell Aberhonddu
· Dydd Iau 27 Medi - siopau Tesco yn Llandrindod ac Ystradgynlais.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu: "Rydym yn falch iawn o'n cyfraddau ailgylchu ac ymdrechion ein trigolion i ailgylchu gymaint â phosibl.
"Fodd bynnag, nid da lle gellir gwell, ac mae Wythnos Ailgylchu'n gyfle i ddangos faint o ddeunydd y gellir eu hailgylchu yn hytrach na'u claddu.
"Byddem yn annog trigolion i alw heibio un o'r sioeau teithiol hyn a siarad â'n swyddogion gwastraff wyneb yn wyneb a derbyn awgrymiadau a chyngor ar sut i roi hwb i'w hymdrechion ailgylchu."