Cymeradwyo cynlluniau am fflatiau yn Y Drenewydd

19 Medi 2018 |
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi y rhoddwyd sêl bendith i gynlluniau newydd am adeilad tri llawr mewn tref yng ngogledd Powys a fydd yn cynnwys 26 o fflatiau un llofft.
Wythnos diwethaf, (dydd Iau 13 Medi) rhoddodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Powys ganiatâd cynllunio i adeiladu'r fflatiau ar dir ger Clwb Bowlio'r Drenewydd yn Lôn Gefn.
Bydd y fflatiau'n cael eu datblygu gan Wasanaeth Tai'r cyngor, ac yn cael eu rhentu er mwyn helpu'r cyngor i wireddu ei Weledigaeth 2025 - i adeiladu o leiaf 250 o gartrefi fforddiadwy ar draws y sir erbyn 2023.
Mae'r datblygiad a fydd yn diwallu Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru, wedi'i gynllunio i ateb anghenion tenantiaid y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod Cabinet ar faterion Tai: "Rwy wrth fy modd i ni gael caniatâd cynllunio. Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd y cyngor yn adeiladu tai cymdeithasol newydd am y tro cyntaf ers deugain mlynedd.
"Mae hefyd yn golygu y byddwn yn dechrau gweithio ar ein haddewid i ddatblygu 250 o gartrefi ychwanegol dros y bum mlynedd nesaf i ateb anghenion cymunedau lleol ym Mhowys. Y datblygiad hwn yw'r cyntaf o nifer sydd ar y gweill ar draws y sir.
"Mae'r cynllun yn ystyried ein Polisi Hybu Pren a fydd yn golygu bod pren yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y prif strwythur a'r deunydd allanol gan gynnwys y ffenestri a'r drysau.
"Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn ateb anghenion y gymuned leol."
Ar ôl sicrhau'r caniatâd cynllunio, bydd gwaith yn mynd ymlaen dros yr wythnosau nesaf i orffen y dogfennau tendro. Bydd y broses dendro'n digwydd dros fis Hydref/Tachwedd gyda'r bwriad o ddechrau ar y gwaith yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd yn cymryd tua 18 mis i orffen y gwaith.