1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: Newidiadau mewn Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Darllen mwy

Gwasanaeth Powys ar y brig mewn gwobrau cenedlaethol

Image cynrychioli Gwasanaeth Powys ar y brig mewn gwobrau cenedlaethol
24 Medi 2018 

Image of Cllr. Phyl Davies and Jason Rawbone

Mae'r adran lanhau, Cyngor Sir Powys wedi cipio'r brif wobr mewn cynllun gwobrau cenedlaethol.

Enillodd yr adran y Tîm Gwasanaeth Gorau (Gwasanaeth Glanhau Adeiladau a Rheoli Cyfleusterau) yng ngwobrau Gwasanaeth Rhagorol Cymdeithas Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae'r gwobrau hyn yn dathlu'r gorau o wasanaethau llywodraeth leol ar draws y DU, gyda ffocws ar gydnabod arloesi a gwelliant parhaus.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys gyda chyfrifoldeb dros y gwasanaeth arlwyo a glanhau: "Mae hwn yn glod enfawr i'r tîm - nid yn unig i gyrraedd y rhestr fer yn erbyn cystadleuaeth o bob cwr o'r DU, ond i ennill. Hoffwn longyfarch pob aelod o'r tîm am eu gwaith caled."

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu