Gwasanaeth Powys ar y brig mewn gwobrau cenedlaethol

24 Medi 2018 |
Mae'r adran lanhau, Cyngor Sir Powys wedi cipio'r brif wobr mewn cynllun gwobrau cenedlaethol.
Enillodd yr adran y Tîm Gwasanaeth Gorau (Gwasanaeth Glanhau Adeiladau a Rheoli Cyfleusterau) yng ngwobrau Gwasanaeth Rhagorol Cymdeithas Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae'r gwobrau hyn yn dathlu'r gorau o wasanaethau llywodraeth leol ar draws y DU, gyda ffocws ar gydnabod arloesi a gwelliant parhaus.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys gyda chyfrifoldeb dros y gwasanaeth arlwyo a glanhau: "Mae hwn yn glod enfawr i'r tîm - nid yn unig i gyrraedd y rhestr fer yn erbyn cystadleuaeth o bob cwr o'r DU, ond i ennill. Hoffwn longyfarch pob aelod o'r tîm am eu gwaith caled."