1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad:Taliadau am gasglu gwastraff swmpus i godi
Darllen mwy

Digwyddiad rhyfel byd cyntaf ym Machynlleth

Image cynrychioli Digwyddiad rhyfel byd cyntaf ym Machynlleth
26 Medi 2018 

Image of the war memorial project posterMae cyfle gwych gan drigolion ym Mhowys sydd â diddordeb yn y Rhyfel Byd Cyntaf i fynychu digwyddiad a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 10 Tachwedd.

Mae Prosiect Cofebion Rhyfel Powys yn cefnogi Cymrodyr y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol wrth drefnu diwrnod o hwyl yn y Plas ym Machynlleth ac ar faes pêl-droed y Dref.

Bydd cynrychiolwyr o Gymrodyr y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, yr ambiwlans a'r gwasanaeth heddlu a llawer iawn mwy wrth law i ddangos sut yr oedd eu gwasanaethau'n cael eu cynnal gan mlynedd yn ôl. 

Bydd ystod eang o weithgareddau ar gynnig i blant yn y digwyddiad, gan gynnwys paentio wynebau a chystadleuaeth "ergyd derfynol" saith pob ochr i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a'r gêm Enwog y bu ein Catrawd yn cymryd rhan ynddi yn 1914. Bydd band lleol yn dechrau'r adloniant ar y noson.

Dywedodd Martin Weale, Aelod o'r Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: "Mae'n rhoi pleser mawr i ni gefnogi digwyddiad mor wych ym Mhowys, gan ei fod yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf a'r effaith a gafodd ar ein cymunedau lleol yma ym Mhowys."

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu