Tyfu Gwell Busnesau ym Mhowys

26 Medi 2018
Mae help llaw ar gael ar gyfer busnesau lleol ym Mhowys yr hydref hwn. Mae digwyddiadau Gwell Busnes Powys yn cael eu cynnal ar draws y sir unwaith eto.
Trefnir y digwyddiadau gan Wasanaeth Adfywio Cyngor Sir Powys ac mae'r digwyddiadau am ddim ar gyfer busnesau Powys. Mae'n ffordd wych o greu cysylltiadau newydd, datblygu masnach, dod o hyd i gymorth a chyngor am ddim ac i glywed am bynciau llosg y Sir.
Bydd gwestai'n clywed rhagor am y Fargen Twf Canolbarth Cymru a'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio ar gyfer Canolbarth Cymru a sut y bydd hyn yn elwa Powys. Byddant hefyd yn clywed am sut y mae rhaglenni tai y Cyngor yn helpu busnesau lleol. Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Banc Datblygu Cymru, Gwasanaethau Busnes Calon Cymru a Chanolfan Bwyd Cymru.
Bydd ystod o wasanaethau cymorth hefyd ar gael i roi cymorth a chyngor i fusnesau yn cynnwys Busnes Cymru, Cyflymu Cymru i Fusnesau, Hyfforddiant Cambrian, Gr?p Colegau NPTC, Grwp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris, a fydd yn mynychu'r digwyddiadau;
"Mae tyfu'r economi yn rhan bwysig o gynllun gwella Gweledigaeth 2025 y Cyngor. Mae ein busnesau lleol yn bartneriaid allweddol ar gyfer diogelu ffyniant economaidd Powys ar gyfer y dyfodol. Mae digwyddiadau Rhwydweithio Gwell Busnes Powys yn llwyfan pwysig ar gyfer rhannu cyfleoedd a thrafod syniadau a all lunio dyfodol ein heconomi leol."
I gadw lle ewch i www.growinpowys.com neu ffoniwch 01597 827656.
Gwybodaeth ychwanegol
Dyma'r ail gyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn 2018 yn dilyn llwyddiant cyfres tebyg yn ystod y gwanwyn yn gynharach eleni.
Fideo byr: https://youtu.be/7QFoKIB-mM0