Telerau ac Amodau ymaelodi â'r Llyfrgell
Trwy ymaelodi â'r llyfrgell, rydych chi'n cadarnhau eich bod wedi darllen a derbyn telerau ac amodau'r aelodaeth.
Amodau cyffredinol yr aelodaeth:
- Wrth ymuno â'r llyfrgell trwy'r wefan, byddwch yn cael aelodaeth ar-lein sy'n rhoi'r hawl i chi ddefnyddio ein casgliadau digidol megis eLyfrau, e-lyfrau llafar ac e-gylchgronau. Cewch rif adnabod llyfrgell a rhif pin o'ch dewis chi, ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
- Gydag aelodaeth lawn, cewch fenthyg llyfrau a DVDs yn unrhyw lyfrgell gangen ym Mhowys. Am fanylion llawn, darllenwch y
Mae'r dogfennau pdf ar y dudalen hon yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd
I sicrhau aelodaeth lawn o'r llyfrgell, galwch yn unrhyw un o lyfrgelloedd cangen Powys gyda rhif aelodaeth ar-lein a rhyw fath o ddulliau adnabod (gan fod yn drwydded yrru, llythyr swyddogol a anfonwyd i chi neu rywbeth mor syml â cherdyn banc gyda'ch enw arno.
Pan ymunwch chi fel aelod cyflawn, byddwch yn derbyn cerdyn aelodaeth llyfrgell ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
- Mae gofyn i aelodau'r llyfrgell gyflwyno eu cerdyn aelodaeth wrth fenthyg eitemau o'r llyfrgell.
- Fel aelod o'r llyfrgell rydych chi'n gyfrifol am yr holl eitemau a fenthycir ar eich cerdyn llyfrgell, gan gynnwys unrhyw eitemau coll/wedi'u difrodi y gellid bod angen talu amdanynt, ac am dalu unrhyw ffioedd hwyr sy'n cronni ar eich cyfrif llyfrgell.
- Os yw'r cerdyn ar goll rhaid i chi hysbysu'r llyfrgell.
- Chi sy'n gyfrifol am ein hysbysu ni am unrhyw newidiadau i'ch manylion personol, er enghraifft newid cyfeiriad.
- Bydd eich aelodaeth yn para 3 blynedd a bydd yn cael ei adnewyddu'n awtomatig ar eich ymweliad nesaf. Os na fyddwch yn defnyddio gwasanaethau'r llyfrgell o fewn 12 mis ar ôl diwedd cyfnod yr aelodaeth, byddwn yn cau'r cyfrif, er gallwch ail-ymuno unrhyw bryd.
- Pe dymunech ganslo eich aelodaeth llyfrgell, dylech ddychwelyd yr holl eitemau a fenthycwyd a dychwelyd eich cerdyn aelodaeth er mwyn ei ddiddymu. Os oes unrhyw ffioedd heb eu talu ar eich cyfrif llyfrgell, disgwylir i chi dalu amdanynt cyn cau'r cyfrif.
Defnydd o gyfrifiaduron y llyfrgell a'r rhyngrwyd:
- Gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron am ddim ym mhob un o lyfrgelloedd Powys. Gallwch wneud hynny heb fod yn aelod o'r llyfrgell, er dim ond aelodau sydd â cherdyn aelodaeth sy'n gallu defnyddio'r system hunanwasanaeth.
- Rhaid i unrhyw un dan 16 oed gael caniatâd rhieni i ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell. Mae pob llyfrgell yn cadw copïau o'r ffurflen ganiatâd, a rhaid i riant/gwarcheidwad lofnodi'r ffurflen o flaen aelod staff.
- Cyfrifoldeb y rhiant neu ofalwr yw monitro a rheoli defnydd y plant yn eu gofal o'r rhyngrwyd a chyfrifiaduron y llyfrgell. Os ydych chi'n pryderu am y cynnwys y gall eich plentyn ei weld wrth ddefnyddio cyfrifiadur y llyfrgell, gofynnwn i rieni/gofalwyr ddod gyda'u plant ar eu hymweliad i'r llyfrgell.
- Mae mynediad i'r we yn cael ei hidlo; ac mae pob mynediad yn cael ei gofnodi a'i logio gan Gyngor Sir Powys. Ni fydd cynnwys penodol unrhyw weithrediad yn cael ei fonitro oni bai bod amheuaeth o ddefnydd amhriodol.
- Er mwyn defnyddio'r cyfrifiaduron, rhaid i chi gytuno i gadw at y Polisi Defnydd Derbyniol sy'n cael ei ddangos ar ddechrau pob sesiwn ar y cyfrifiadur. Bydd unrhyw weithgaredd sy'n torri'r Polisi Defnydd Derbyniol yn golygu y daw'r sesiwn i ben, a byddwn yn gwrthod rhoi caniatâd pellach i chi ddefnyddio'r cyfrifiadur.
- Gall unrhyw achos o dorri'r Polisi Defnydd Derbyniol yn anghyfreithlon gael ei gyfeirio at yr heddlu.
Diogelu Data a chadw data personol:
Mae Cyngor Sir Powys yn parchu'ch hawl i breifatrwydd ac wedi'i ymrwymo i'w ddiogelu yn unol â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
- Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni wrth ymuno â'r llyfrgell yn angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau'r llyfrgell i chi.
- Mae Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Llyfrgell yn egluro sut rydym yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau.
- Ni fyddwn yn cadw'ch gwybodaeth yn hirach na'r angen, oni fydd hynny'n ofynnol dan y gyfraith.
Atodlen sy'n nodi am faint o amser rydym ni'n cadw gwahanol fathau o wybodaeth:
- Pwrpas y wybodaeth: Rheoli Cyfrif Defnyddiwr
- Disgrifiad o'r wybodaeth: Ffurflenni Cofrestru Papur Llofnod ar gopi caled
- Am ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw: 3 mis
- Pwrpas y wybodaeth: Rheoli Cyfrif Defnyddiwr
- Disgrifiad o'r wybodaeth: Data personol a gedwir ar gyfrif llyfrgell* ar gronfa ddata System Rheoli'r Llyfrgell.
- Am ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw: Diwedd y cytundeb aelodaeth*1 + 1 flwyddyn
- Pwrpas y wybodaeth: Rheoli Cyfrif Defnyddiwr
- Disgrifiad o'r wybodaeth: Defnyddwyr gydag eitemau/ffioedd heb eu dychwelyd neu dalu ar eu cyfrif ar ddiwedd y cytundeb.
- Am ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw: Diwedd y cytundeb aelodaeth*1 + 6 blynedd
- Pwrpas y wybodaeth: Rheoli Cyfrif Defnyddiwr
- Disgrifiad o'r wybodaeth: Hanes benthyca defnyddiwr llyfrgell.
- Am ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw: Diwedd y cytundeb aelodaeth + 1 flwyddyn (Bydd eich aelodaeth yn para 3 blynedd a bydd yn cael ei adnewyddu'n awtomatig ar eich ymweliad nesaf. Os na fyddwch yn defnyddio gwasanaethau'r llyfrgell o fewn 12 mis ar ôl diwedd cyfnod yr aelodaeth, byddwn yn cau'r cyfrif, er gallwch ail-ymuno unrhyw bryd.)
- Pwrpas y wybodaeth: Rheoli Cyfrif Defnyddiwr
- Disgrifiad o'r wybodaeth: Dyddiad gweithgareddau diwethaf, gan gynnwys eitemau a fenthycwyd, defnydd o 'Borrowbox', defnydd o gyfrifiadur
- Am ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw: Diwedd y cytundeb aelodaeth + 1 flwyddyn (Bydd eich aelodaeth yn para 3 blynedd a bydd yn cael ei adnewyddu'n awtomatig ar eich ymweliad nesaf. Os na fyddwch yn defnyddio gwasanaethau'r llyfrgell o fewn 12 mis ar ôl diwedd cyfnod yr aelodaeth, byddwn yn cau'r cyfrif, er gallwch ail-ymuno unrhyw bryd.)
- Pwrpas y wybodaeth: Defnydd cyfrifiadur defnyddiwr llyfrgell
- Disgrifiad o'r wybodaeth: Dyddiadau ac amserau defnyddio'r cyfrifiadur, a gedwir ar feddalwedd Rheoli'r Llyfrgell.
- Am ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw: 5 mlynedd
- Pwrpas y wybodaeth: Defnydd cyfrifiadur defnyddiwr llyfrgell
- Disgrifiad o'r wybodaeth: Hanes defnyddiwr llyfrgell ar y rhyngrwyd. Data anhysbys a gedwir er mwyn helpu i ddatgelu camddefnydd.
- Am ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw: 1 flwyddyn
- Pwrpas y wybodaeth: Monitro defnydd a thorri telerau
- Disgrifiad o'r wybodaeth: Defnyddwyr sydd wedi eu gwahardd rhag defnyddio gwasanaethau'r llyfrgell neu gyfrifiaduron yn unol â'n polisi gwahardd.
- Am ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw: Bydd data sydd ynghlwm â gwaharddiad penagored yn cael ei gadw yn unol ag unrhyw ofyniad cyfreithiol ac er mwyn atal defnydd pellach o'r gwasanaethau.