Cynnal a chadw Llwybr Hafren

11 Hydref 2018 |
Mae gwaith cynnal a chadw a chasglu mân sbwriel wedi'i wneud ar dros 100 milltir o'r llwybr sy'n dilyn hynt afon hiraf Prydain, diolch i ymdrechion gwirfoddolwyr cefn gwlad.
Daeth staff a gwleidyddion Cyngor Sir Powys i helpu Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Powys i gasglu sbwriel, i ailwampio cyfeirnodau, addasu gatiau a chlirio llystyfiant ar hyd Llwybr Hafren.
Cyflawnwyd y gwaith fel rhan o'r digwyddiad Dathlu Blynyddol y mae Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad yn ei gynnal. Tîm y Gwasanaethau Cefn Gwlad sy'n trefnu'r diwrnod i ddathlu ymdrechion gwirfoddolwyr i gadw'r rhwydwaith hawliau tramwy ar agor ym Mhowys. Cynhaliwyd digwyddiad eleni fis diwethaf ar ddydd Iau, 20 Medi.
Daeth 29 o wirfoddolwyr a 11 o bobl o'r cyngor, a rhannwyd hwy yn 12 tîm i wneud y gwaith cynnal a chadw ar hyd 59 milltir Llwybr Hafren, o darddle Afon Hafren ger Llanidloes i'r ffin rhwng Powys a Sir Amwythig.
Cymerodd gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr o Gynghorau Sir Amwythig, Telford & Wrekin a Sir Gaerwrangon hefyd ran yn eu siroedd eu hunain, gan wella dros 100 milltir o'r llwybr glan yr afon hiraf ym Mhrydain mewn un diwrnod.
"Fe wnaethom ni lwyddo i osod gwirfoddolwyr ar hyd pob rhan o Lwybr Hafren ym Mhowys, ac roedd yr achlysur yn llwyddiant mawr, er gwaethaf y tywydd gwael," meddai'r Cyng Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cefn Gwlad, a oedd hefyd yn cymryd rhan ar y diwrnod.
"Gwnaeth lefel brwdfrydedd y gwirfoddolwyr argraff fawr arnaf, a hoffwn i ddiolch i holl Wirfoddolwyr Cefn Gwlad Powys am eu gwaith caled a'u hymdrechion i helpu i gynnal mynediad i gefn gwlad a hawliau tramwy Powys.
"Mae mynediad i'n cefn gwlad prydferth yn hanfodol, nid yn unig i iechyd a llesiant ein trigolion a'n cymunedau, ond hefyd i ddenu ymwelwyr i'r sir, a'r buddion economaidd sy'n dod yn sgil hynny. Rydym yn dibynnu ar gymorth ein gwirfoddolwyr, a hebddo, byddai'r sir lawer yn llai hygyrch."