Cynllun Neges mewn Potel yn arbed amser i'r gwasanaethau brys

15 Hydref 2018 |
Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i gadw eu manylion personol a meddygol ar un daflen a'i chadw mewn lleoliad cyffredin sy'n hawdd dod o hyd-ddi, diolch i gynllun newydd.
Syniad syml yw cynllun 'Neges mewn Potel' a all arbed amser i dimau gwaith cymdeithasol a'r gwasanaethau brys gael hyd i wybodaeth hollbwysig pe bai rhywun yn cwympo neu'n mynd yn sâl gartref.
Rydych yn rhoi potel blastig fach yn yr oergell gyda'ch manylion personol ar daflen wedi'i rholio y tu fewn iddi. Yna, rydych yn rhoi sticer gyda chroes werdd ar yr oergell sy'n dangos eich bod yn cadw gwybodaeth hanfodol oddi mewn.
Dywedodd y Cynghorydd Stephen Hayes, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Oedolion: "Mae Neges mewn Potel yn gynllun bendigedig a all gwneud gwahaniaeth mawr i rywun y mae angen cefnogaeth frys arnyn nhw, new sylw meddygol gan y gwasanaethau brys.
"Bydd cadw gwybodaeth mewn un lle cyffredin yn ei gwneud yn haws cysylltu â pherthnasau agos, aelod y teulu, gweithiwr cymdeithasol neu ofalwr.
"Rwy'n falch ofnadwy bod Gwasanaethau Oedolion yn cydweithio â'r Groes Goch yma ym Mhowys i ddosbarthu'r poteli."
Mae'r poteli am ddim i drigolion a gallwch chi eu casglu o brif swyddfeydd y cyngor yn Ystradgynlais, Aberhonddu, Llandrindod, Y Drenewydd a'r Trallwng. Byddan nhw hefyd ar gael o lyfrgelloedd ar draws y sir.