Ail-drefnu digwyddiad taro heibio ar anghenion tai

17 Hydref 2018 |
Mae digwyddiad taro heibio i roi cyfle i drigolion Llanidloes rannu syniadau ar gartrefi fforddiadwy newydd yn y gymuned wedi cael ei ail-drefnu.
Bydd y digwyddiad hwn, sy'n cael ei drefnu gan Dîm Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Powys, yn cael ei gynnal ar ddiwrnod marchnad y dref, sef ddydd Sadwrn 27 Hydref rhwng 9am-3pm.
Bu rhaid canslo'r dyddiad gwreiddiol oherwydd Storm Callum.
Trefnwyd y digwyddiadau hyn fel bod swyddogion yn gallu cael sylwadau trigolion ar dai fforddiadwy a hefyd i fesur yr angen am dai yn yr ardal.
Mae'r cyngor am ddatblygu tai fforddiadwy ar hen safle'r farchnad yn y dref.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod Cabinet ar faterion Tai: "Rydym am adeiladu tai fforddiadwy, cynaliadwy o ansawdd da sy'n ateb anghenion cymunedau lleol ar draws Powys. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu 250 o gartrefi ychwanegol dros y bum mlynedd nesaf.
"Bydd ein tîm tai fforddiadwy'n gweithio mewn cymunedau ar draws Powys i nodi tir sy'n addas i'w ddatblygu ar gyfer tai, ac i fesur yr angen am dai. Mae'r gwaith hwn wedi arwain at yr hen farchnad da byw ac rydym yn bwriadu adeiladu tai fforddiadwy ar y safle hwn.
"Mae digwyddiadau o'r fath yn bwysig gan ei fod yn gyfle i ni gasglu syniadau gan drigolion a gweld beth yw'r angen am dai yn yr ardal hon."