Annog aelwydydd canol Powys i ailgylchu mwy o wastraff bwyd

18 Hydref 2018 |
Mae Cyngor Sir Powys yn annog aelwydydd yng nghanol Powys i ailgylchu gymaint o'u gwastraff bwyd â phosibl trwy ddefnyddio'r gwasanaeth casglu wythnosol o ymyl y ffordd.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae aelwydydd canol Powys yn ailgylchu tua 69kg o wastraff bwyd fesul aelwyd bob blwyddyn sydd 10% yn llai na gweddill y sir.
Mae Tîm Ailgylchu a Gwastraff y cyngor yn gofyn i aelwydydd canol Powys ailgylchu eu gwastraff bwyd bob wythnos trwy ddefnyddio'r gwasanaeth casglu wythnosol o ymyl y ffordd.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Y llynedd, ailgylchodd aelwydydd dros 5,000 o dunelli o wastraff bwyd trwy'r gwasanaeth casglu o ymyl y ffordd. Ond mae rhai rhannau o'r sir yn ailgylchu mwy o wastraff bwyd nac eraill.
"Ar gyfartaledd mae 75kg o wastraff bwyd yn cael ei ailgylchu fesul aelwyd yn y sir bob blwyddyn, ond mae hyn yn syrthio i 69kg fesul aelwyd yng nghanol Powys - cwymp o 10% o'i gymharu â chyfartaledd y sir.
"Rydym yn gofyn i aelwydydd ailgylchu gymaint o'u gwastraff bwyd â phosibl ac fe wnawn geisio helpu aelwydydd i wneud yn fawr o'u gwasanaethau gwastraff trwy ailgylchu eu gwastraff bwyd bob wythnos.
"Mae'n ddrud ac yn ddrwg i'r amgylchedd i anfon gwastraff bwyd i safleoedd tirlenwi. Trwy ddefnyddio'r gwasanaeth casglu o ymyl y ffordd, mae'r holl wastraff bwyd yn cael ei ailgylchu gan ei fod yn cael ei anfon i ganolfan treulio anaerobig yn Ne Cymru i wneud ynni gwyrdd a gwrtaith i ffermwyr Cymru."
Yn ôl dadansoddiad o wastraff gweddilliol, mae gymaint â 16% o'r gwastraff sy'n cael ei roi mewn biniau duon i'w hanfon i safleoedd tirlenwi yn wastraff bwyd.
"Mae pobl yn ailgylchu eu gwastraff bwyd ond nid da lle gellir gwell", dywedodd y Cynghorydd Davies.
"Gallwch ddefnyddio eich cadi cegin i ailgylchu unrhyw fwyd sydd dros ben, gan gynnwys pilion llysiau, cig, pysgod, cynnyrch llaeth, sachau te a gwaddodion coffi."
Am ragor o wybodaeth ar beth y gallwch ei ailgylchu trwy'r gwasanaeth casglu gwastraff o ymyl y ffordd, ewch i www.powys.gov.uk/ailgylchu.