Cyngor Sir Powys yn mabwysiadu'r canllawiau cynllunio atodol

22 Hydref 2018 |
Mae'r cyngor sir wedi mabwysiadu tri set o ganllawiau cynllunio a fydd yn ategu Cynllun Datblygu Lleol y sir.
Yn gynharach eleni, mabwysiadodd y cyngor sir Gynllun Datblygu Lleol newydd, sef y cynllun sy'n cyflwyno'r polisïau cynllunio i'r sir, heblaw am ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gydag addewid y byddai'n llunio tri pholisi Canllawiau Cynllunio Atodol.
Roedd y polisiau atodol hyn yn destun ymgynghori cyhoeddus dros yr haf ac yn ymdrin â Thai Fforddiadwy, Rhwymedigaethau Cynllunio a Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth ac yn helpu i ddeall, dehongli a rhoi polisiau arbennig ar waith wrth wneud penderfyniadau cynllunio.
Y nod yw sicrhau bod modd deall y polisiau hyn yn well a'u defnyddio'n effeithiol. Byddan nhw'n ffynhonnell cyngor i swyddogion cynllunio, datblygwyr a pherchnogion safleoedd, ac fe'u lluniwyd ar gytundeb yr Arolygydd Cynllunio annibynnol a gynhaliodd yr archwiliad cyhoeddus y llynedd.
Mae modd gweld y canllawiau hyn trwy ddilyn y ddolen ganlynol: