Statws fel man adneuo ar gyfer Cofnodion Cyhoeddus gan yr Archifau

22 Hydref 2018 |
Mae Gwasanaeth Archifau newydd Cyngor Sir Powys yn Llandrindod wedi ennill statws fel man adneuo ar gyfer Cofnodion Cyhoeddus gan yr Archifau Cenedlaethol.
Cafodd y ganolfan archif newydd sydd wedi'i lleoli ar Ffordd Ddole, ei hadnewyddu'n llwyr y llynedd ar gyfer gwasanaeth archifau a rheoli gwybodaeth y cyngor yn dilyn pryderon a godwyd gan Archifau Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru am gyfleusterau'r cyngor.
"Mae creu'r archif newydd yn Llandrindod yn gyflawniad sylweddol. Mae'r gwaith llwyddiannus o addasu a thrawsnewid yr Uned at ddibenion archifau yn dangos y meddwl a'r gofal sydd wedi mynd i mewn i ddylunio ac adeiladu, meddai Jeff James, Prif Weithredwr a Cheidwad yr Archifau Cenedlaethol
"Er ei bod yn ymarferol o ran ei olwg, mae'n darparu safon dda o gadwraeth, mae'r amgylchedd yn un dymunol ar gyfer defnyddwyr a staff, ac mae'n rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer datblygu'r gwasanaeth er lles y gymuned. Dylid llongyfarch y tîm prosiect ar y canlyniad llwyddiannus, a Chyngor Sir Powys am ei ymrwymiad i sicrhau bod ei dreftadaeth archifol unigryw yn cael ei rheoli'n briodol ".
Meddai'r Aelod Cabinet ar faterion Asedau, y Cynghorydd Phyl Davies: "Mae Cyngor Sir Powys yn hynod falch o gael y gydnabyddiaeth hon gan yr Archifau Cenedlaethol. Prif nod y prosiect llety oedd sicrhau bod y cyngor yn darparu cyfleusterau priodol ar gyfer ein cofnodion hanesyddol, ac i ddarparu ystafell chwilio i'w defnyddio gan ymchwilwyr i edrych ar yr archifau hyn.
"Ers agor y cyfleuster newydd mae ffigyrau ymwelwyr wedi cynyddu'n sylweddol ac mae cofnodion newydd wedi'u hadneuo gyda'r Archifau, sy'n golygu bod treftadaeth a diwylliant sir Powys yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".