Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai
Rhaid i Gyngor Sir Powys gwblhau astudiaeth argaeledd tir ar gyfer tai bob blwyddyn i fonitro cyflenwi tir am dai yn ei ardal gynllunio (y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).
Mae Polisi Cynllunio Cymru yn gofyn i ni sicrhau fod digon o dir ar gael, neu a fydd yn dod ar gael, er mwyn cael cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai.
Y Sefyllfa Gyfredol
(Diweddarwyd diwethaf ar 04/09/2019)
Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol Powys ar 17 Ebrill 2018. Yn unol â Pholisi TAN 1 Llywodraeth Cymru, mae Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar Gyfer Tai 2019 i'w weld isod.
Astudiaethau cyfredol:
Cynhelir astudiaeth gyda phawb allweddol sydd â diddordeb. Mae'r Astudiaethau'n ffurfio rhan o sylfaen tystiolaeth ar gyfer cynlluniau datblygu awdurdodau cynllunio lleol a'u hadolygiadau.
Diben yr astudiaeth yw:
- cynnig datganiad sydd wedi'i gytuno ar argaeledd tir ar gyfer tai er mwyn dibenion cynllunio a rheoli datblygiadau; ac
- mewn sefyllfaoedd lle nad oes digon o gyflenwad yn cael ei nodi, rhoi amlinelliad o'r mesurau y mae'r awdurdod cynllunio lleol yn eu cymryd i drafod y diffyg.
Mae'r astudiaeth hefyd yn cynnig gwybodaeth ar dai sydd wedi'u cwblhau.
Mae cyfarwyddyd ar baratoi astudiaeth wedi'i nodi yn Nodyn Cyngor Technegol 1, Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (TAN 1). Caiff pob astudiaeth ei pharatoi gyda data gwaelodlin o'r 1 Ebrill bob blwyddyn i gynnig darlun cynhwysfawr Cymru-gyfan o argaeledd tir ar gyfer tai. Mae TAN 1 hefyd yn cynnig cyfarwyddyd ar y dull i gyfrifo cyflenwad tir ar gyfer tai a'r amodau y mae'n rhaid i safleoedd eu diwallu er mwyn cael eu cynnwys yn yr Astudiaethau.