Llyfrgell Llanwrtyd i ymestyn yr oriau agor o 1 Tachwedd

29 Hydref 2018 |
Mae tîm o wirfoddolwyr brwd yn Llyfrgell Llanwrtyd yn mynd i roi cynnig ar oriau agor gwahanol o ddydd Iau (1 Tachwedd) gan gynyddu nifer yr oriau y bydd y llyfrgell ar agor i gwsmeriaid.
Yr oriau newydd fydd:
· Dydd Mawrth 10am - 1 pm, 3pm - 6 pm (oriau gwirfoddolwyr)
· Dydd Mercher 10am - 1 pm (oriau gwirfoddolwyr)
· Dydd Iau 10 am - 1 pm (oriau staff)
· Dydd Sadwrn 10 am - 12 hanner dydd (oriau staff)
Mae'r llyfrgell yn cynnig dewis eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg i ddarllenwyr o bob oed, gan gynnwys llyfrau print bras. Hefyd mae yna gyfrifiaduron a wi-fi er defnydd y cyhoedd, cyfleusterau argraffu a chyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig gwych megis Ancestry.com a chylchgronau academaidd 'Access to Research'. Gallwch hefyd dalu biliau'r cyngor gyda cherdyn credyd neu ddebyd a chael clywed mwy am wasanaethau'r cyngor.
Dywedodd Kay Thomas, Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Powys: "Mae'n hyfryd gweld cymuned yn gwerthfawrogi gymaint o'i adnoddau fel Llanwrtyd. Rwy'n edmygu'n fawr yr holl waith y mae'r gwirfoddolwyr yn ei wneud i roi cynnig ar amrywio'r oriau agor fel sydd orau i'r trigolion, gan sicrhau fod cynifer â phosibl yn gallu elwa o'r llyfrgell. Da iawn pobl Llanwrtyd."
Ychwanegodd: "Mae pob croeso i wirfoddolwyr newydd ymuno â thîm bychan a hwyliog yn y llyfrgell. Os allwch chi sbario awr neu ddwy i lanhau'r llyfrgell neu ei agor i'r cyhoedd, holwch am ffurflen wirfoddoli o'r llyfrgell er mwyn gweld sut allwch chi helpu."