gwelededd ddewislen symudol Toggle

Arolwg Casgliadau Gwastraff Gardd Gwyrdd

Image of green garden waste

Yn hwyr yn 2018 gofynnon ni i drigolion leisio barn am wasanaeth gwastraff

gwyrdd o'r ardd newydd roedden ni am ei gyflwyno.

Gofynnon ni i bobl pa mor aml dylen ni gynnig y gwasanaeth hwn, faint dylen ni godi amdano a pha fath o flychau dylen ni eu darparu.

Bydden ni'n casglu'r blwch o ymyl y ffordd fel y gwasanaeth ailgylchu a bin du presennol.

Atebodd dros ddwy fil o drigolion yr arolwg.

Isod rydym yn crynhoi'r hyn a ddywedoch chi a'r hyn a wnaethon ni:

Dywedoch chi

  • yr hoffech chi gael gwasanaeth o'r fath (dywedodd 49% yr hoffen nhw gael y gwasanaeth neu efallai y bydden nhw am ei gael)
  • eich bod yn troi'ch gwastraff o'r ardd yn wrtaith yn barod neu'n defnyddio'r safleoedd Cyfleuster Dinesig. Felly dydych chi ddim yn teimlo y byddech chi'n defnyddio'r gwasanaeth neu nid oes angen y gwasanaeth arnoch chi (51%)
  • Dydych chi ddim yn siŵr pa un ydy'r gorau. Gallai'r gwasanaeth redeg drwy gydol y flwyddyn neu'n dymhorol. Dywedodd 50% bod yn well ganddynt gael y gwasanaeth drwy'r flwyddyn a 50% y byddai gwasanaeth tymhorol yn well
  • Rydych am i ni gasglu bob pythefnos
  • Efallai y bydd biniau o wahanol faint yn gweithio i wahanol deuluoedd ond drwyddi draw mae blwch 180 litr i weld yn gall (byddai 41% yn hoffi bin olwynion 180 litr, 33% bin 240 litr a 16% bin llai o 120 litr
  • Byddai blwch arall yn gweithio yn well i rai teuluoedd nad oes ganddynt ardd o flaen y tŷ neu a chanddynt erddi serth. (Byddai 10% yn hoffi math arall o flwch)
  • Mae codi rhwng £30 a £40 yn dderbyniol. (Byddai 83% o'r bobl a atebodd yn fodlon talu hwn)
  • Byddech chi'n talu ar-lein neu drwy ddebyd uniongyrchol
  • Rydych chi am i ni gysylltu â chi pan fydd y gwasanaeth yn mynd yn fyw. Rhoddodd dros bum cant o'r atebwyr eu manylion cyswllt.

 

Byddwn ni'n gwneud y canlynol:

  • lansio'r gwasanaeth ym mis Ebrill eleni
  • rhedeg y gwasanaeth am naw mis o'r flwyddyn (o fis Mawrth i fis Tachwedd)
  • codi £35 ar gyfer bin 240 litr, £30 am fin olwynion llai 120 litr
  • Gan nad yw bin 240 litr yn cymryd llawer mwy o le na bin 180 litr, ond mae'n gallu storio traean yn fwy, bin 240 litr yw'r maint safonol fydd yn cael ei ddarparu.
  • casglu'r gwastraff gwyrdd o'r ardd bob pythefnos o ymyl y ffordd fel y casgliadau gwastraff ailgylchu ac ysbwriel dros ben sy'n digwydd yn barod
  • rhoi gwybod i bawb a roddodd eu manylion cyswllt fel y gallwn drefnu i ddanfon eu bin atyn nhw a chymryd taliad
  • rhoi manylion ynghylch talu ar-lein a gweithio i sefydlu dewis talu trwy ddebyd uniongyrchol
  • parhau i arolygu sut rydym yn darparu'r gwasanaeth er mwyn diwallu anghenion ein trigolion