Llyfrgell yn Ne Powys yn helpu i gofio'r rhai o'r dref a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf

2 Tachwedd 2018
Mae llyfrgell yn ne Powys yn gweithio gyda grwpiau lleol ar arddangosfa arbennig iawn i gofio Dydd Cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Llyfrgell Ystradgynlais wedi helpu i gychwyn a chydlynu ymateb cymunedol gyda grwpiau ac unigolion yn gweithio gyda'i gilydd i greu 'rhaeadr' o babïau wedi'u gwau, crosio a rhai ffelt a fydd yn hongian o giât y llyfrgell.
Mae'r Lleng Prydeinig a Chyngor Tref Ystradgynlais yn cefnogi'r diwrnod hwn gyda help haneswyr lleol. Mae staff y llyfrgell wedi defnyddio'u sgiliau ymchwil ac adnoddau hel achau i lunio bywgraffiadau byr o'r milwyr lleol sydd wedi'u rhestru ar y Gofeb Rhyfel yn Ystradgynlais a byddan nhw'n cael eu cynnwys ar babïau polion lampau'r dref.
Hefyd, mae'r llyfrgell yn codi arddangosfa o lyfrau ac adnoddau yn y llyfrgell ar thema'r Rhyfel Byd Cyntaf a fydd yn cynnwys mwy o fanylion ar filwyr y polion lampau.
"Mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd i helpu'r llyfrgell gyda'r arddangosfa hon. Mae pobl am gofio'r rhai hynny o gefndiroedd cyffredin a aeth i ymladd mewn rhyfel erchyll a thalu gyda'u bywydau. Dyma gymuned sydd am gofio bywydau go iawn ein cyndadau mewn ffordd addas a fydd yn creu effaith, " meddai'r Prif Lyfrgelloedd Kay Thomas