Adroddiadau blynyddol cynghorwyr yn cael eu cyhoeddi ar-lein

6 Tachwedd 2018
Gall trigolion Powys weld y gwaith mae eu cynghorwyr lleol wedi bod yn ei wneud trwy ddarllen eu hadroddiadau blynyddol a gyhoeddwyd ar-lein yr wythnos hon.
Gallwch chi weld adroddiadau blynyddol a ysgrifennwyd gan gynghorwyr ar eu tudalennau gwe unigol trwy fynd i wefan Cyngor Sir Powys https://powys.moderngov.co.uk/mgMemberIndex.aspx?bcr=1 ac yna'n chwilio am eich cynghorydd lleol.
Mae'r adroddiadau'n rhoi cipolwg ar weithgareddau cynghorwyr dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys aelodaeth pwyllgorau a chyfarfodydd y buont yn eu mynychu. Hefyd, mae'r adroddiadau yn nodi materion y buodd cynghorwyr yn ymwneud â nhw ar ran etholwyr, y sesiynau datblygu aethant iddyn nhw a gweithgareddau eraill.
Cyflwynwyd yr adroddiadau'n gyntaf yn 2012-13 fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru i gryfhau democratiaeth leol.
Mae ysgrifennu adroddiadau blynyddol yn ddewisol ond bydd y cyngor yn cytuno ar adroddiad llai manwl gyda chynghorwyr nad ydynt yn dymuno llunio adroddiad "llawn". Bydd yr adroddiad byrrach hwn yn rhoi manylion aelodaeth pwyllgorau a pha gyfarfodydd a sesiynau datblygu maent wedi eu mynychu. Bydd hyn yn sicrhau bod trigolion yn gallu gweld gwybodaeth sylfaenol am bob cynghorydd.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor, y Cynghorydd
Matthew Dorrance: "Mae Adroddiadau Blynyddol yn rhoi goleuni ar y gwaith y mae cynghorwyr yn ei wneud wrth iddynt gynrychioli eu hetholwyr. Y syniad yw hyrwyddo dealltwriaeth well o rôl cynghorwyr, mwy o dryloywder am eu gwaith a mwy o atebolrwydd."
Os yw aelod o'r cyhoedd yn dymuno rhoi sylwadau ar adroddiad dylent gysylltu â'r cynghorydd perthnasol.