Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofebion rhyfel ym Mhowys

Prosiect Cofebion Rhyfel Powys 2014 - 2019: Arwydd o Barch.
Image of a war memorial

Mae Cyngor Sir Powys wedi sicrhau arian oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) ac BAwdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

 

Mae'r prosiect yn coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd 1af a bydd yn rhedeg tan fis Hydref 2019.

 

Dyma rai o nodau'r prosiect:

  • Darganfod, cofnodi a mapio'r holl gofebau rhyfel ym Mhowys.
  • Darparu cyllid (hyd at £5,000 y gofeb) ar gyfer cofebau Rhyfel Byd 1af ym Mhowys, i'w hatgyweirio, eu hadfer neu'u cynnal.
  • Hwyluso neu drefnu hyfforddiant am ddim i gymunedau ym Mhowys, e.e. yngl?n â sut i ymchwlio i enwau ar gofebau rhyfel.
  • Gweithio gyda chymunedau ym Mhowys i ddatblygu teithiau a llwybrau cerdded ar thema'r Rhyfel Byd 1af. 
  • Trefnu a hwyluso digwyddiadau a gweithgareddau'r Rhyfel Byd 1af, er enghraifft, sgrinio ffilmiau neu lwyfannu perfformiadau cerddorol.
  • Cynorthwyo rhaglenni, prosiectau a mentrau eraill yngl?n â'r Rhyfel Byd 1af. 

Defnyddiwch ein pecynnau i'ch helpu chi i:

War memorial project poster

  • Ddechrau ymchwilio i'r enwau sydd wedi'u rhestru ar gofebion rhyfel - pwy ydyn nhw, a beth yw eu hanes nhw?
  • Coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf
    Llunio cofnod manwl o gofebion rhyfel yn eich cymuned chi
  • Darganfod sut i gofnodi a gofalu am gofebion rhyfel

 

Prosiect Cofebion Rhyfel Cyngor Sir Powys  2014-2018 : Arwydd o Barch sy'n darparu'r pecynnau. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Sir Powys, Cadw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy'n ariannu'r Prosiect.

Yn y cyfamser, cysylltwch â'r swyddog prosiect cofebion rhyfel am ragor o wybodaeth.

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau