Proses archwilio rheoliadau adeiladu
Mae sicrhau bod y gwaith adeiladu ar y safle yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig yn rhan hanfodol o waith Rheoli Adeiladu.
Mae'n hanfodol fod ymgeiswyr a chontractwyr yn rhoi gwybod i ni pryd y bydd y gwaith yn dechrau, er mwyn i'r Arolygydd drefnu eu cyfarfod ar y safle..
Mae'r prif gamau ar gyfer archwilio wedi'u trefnu fel a ganlyn:
- Dechrau'r gwaith
- Cloddio ar gyfer y seiliau
- Cwrs atal lleithder
- Draeniau cyn eu gorchuddio
- Rhoi prawf ar y draeniau
- Adeiladwaith lloriau a thoeau
- Archwiliad pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau
Mae'n hanfodol fod Arolygydd yn cynnal archwiliad cwblhau, er mwyn gallu darparu Tystysgrif Cwblhau. Dylech gadw hon gyda gweithredoedd yr eiddo, i gyfeirio ati yn y dyfodol.