Rheoliadau Adeiladu - gwaith trydanol
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw waith trydanol yn eich cartref un ai yn cael ei wneud gan drydanwr cymwys sydd wedi cofrestru ar gynllun, neu'n cael ei archwilio gan un.
- Dod o hyd i drydanwr cofrestredig - Cofrestr o drydanwyr sy'n aelod o wahanol gynlluniau Personau Cymwys.
- Canllawiau Cyffredinol - Am gyngor, cyfarwyddyd a gwybodaeth mewn iaith sy'n hawdd i'w deal.
Mae ein tim rheoli adeiladu yma i'ch helpu chi. I fod yn ddiogel, siaradwch a ni cyn cychwyn ar eich prosiect.
Under Dan Ran P rheoliadau adeiladu, dylai unrhyw waith DIY a thrydanol sy'n cael ei wneud gan fasnachwyr di-gofrestredig gael ei wirio a'i dystio. Fel perchennog yr eiddo, chi sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod gwaith trydanol yn cydymffurfio â'r rheolau.
Nid yw'r rheoliadau'n eich atal chi rhag gwneud eich gwaith eich hun na defnyddio crefftwr digofrestredig, ond bydd rhaid i chi wneud Cais Rheoliadau Adeiladu neu gael aelod o gynllun personau cymwys trydanol i wirio'r gwaith a chyhoeddi'r hysbysiad a thystysgrif.
Trefnu archwiliad safle trwy ap symudol LABC Powys. Gallwch nawr gysylltu â ni i drefnu archwiliad safle ar eich ffôn symudol unrhyw adeg o'r dydd, sy'n grêt os ydych chi allan neu ar y safle. Llwythwch ein ap archwiliad safle LABC Powys (ar gyfer Apple ac Android) ar eich ffôn symudol. Cyfarwyddiadau yma. Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau