Adeiladu ger neu dros garthffosydd cyhoeddus
Mewn achosion lle bydd adeiladu, ymestyn neu atgyfnerthu adeilad yn golygu adeiladu dros neu o fewn 3 metr o garthffos a ddangosir ar fap carthffosydd, rhaid cyflwyno Cais Llawn.
Dylai'r cais o Gynlluniau Llawn gynnwys manylion y camau a gymerwyd i ddiogelu'r garthffos.
Bydd rhaid i chi hefyd ddod i gytundeb o'r enw 'cytundeb adeilad drosodd' gyda Dwr Cymru neu Hafren Trent cyn dechrau ar y gwaith.
(Cyfeiriwch at reol 12(5) Rheoliadau Adeiladu 2010 a gofynion H4 Atodlen 1, Rheoliadau Adeiladu).
Trosglwyddo Carthffos Breifat
O 1 Hydref 2011 bydd unrhyw garthffos breifat sy'n cludo dwr glaw neu ddwr gwastraff i garthffos gyhoeddus sy'n cael ei rhannu gan ddau neu ragor o eiddo yn cael eu rheoli gan Dwr Cymru neu Hafren Trent.
Gwasanaethau Datblygwr Dwr Cymru
0800 9172652
Hafren Trent
01902 793 871