Eithriadau
Adeiladau ar wahan
Wedi'i eithrio:
- Os nad oes rhywle i gysgu ynddo.
- Os nad yw arwynebedd y llawr yn fwy na 15 metr sgwâr.
Ty gwydr / ystafell wydr
Wedi'i eithrio:
- Os oes gan yr ystafell do gwydr/lled dryloyw. Rhaid iddo fod wedi'i gysylltu â'r ty ac yn cynnwys arwynebedd llawr dim mwy na 30 metr sgwâr.
- Os yw'n strwythur un llawr.
- Os yw'r mynedfeydd a'r ffenestri gwreiddiol yn cael eu cadw.
- Os nad yw'n cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
- Os oes gwydr diogelwch yn y mannau priodol.
- Di-wres
- Heb ei adeiladu dros ddraenio
Garej
Wedi'i eithrio:
- Os yw'n adeilad ar wahan.
- Os nad yw arwynebedd y llawr yn fwy na 30 metr sgwâr.
- Cyn belled â'i fod 1 metr neu ragor o bob ffin neu wedi'i adeiladu'n bennaf o ddeunyddiau anhylosg.
Cyntedd
Wedi'i eithrio:
- Os na chaiff ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
- Os nad yw arwynebedd y llawr yn fwy na 30 metr sgwâr. Un llawr.
- Os bydd y mynedfeydd a'r ffenestri gwreiddiol yn cael eu cadw.
- Os yw'n cynnwys gwydr diogelwch yn y mannau priodol.
Cysgodfa car
Wedi'i eithrio os yw:
- Ar agor ar o leiaf dwy ochr (nid yw'r drysau ar yr ochr agored).
- Heb fod dros 30 metr sgwar o ran arwynebedd y llawr.
- Un llawr.
Trefnu archwiliad safle trwy ap symudol LABC Powys. Gallwch nawr gysylltu â ni i drefnu archwiliad safle ar eich ffôn symudol unrhyw adeg o'r dydd, sy'n grêt os ydych chi allan neu ar y safle. Llwythwch ein ap archwiliad safle LABC Powys (ar gyfer Apple ac Android) ar eich ffôn symudol. Cyfarwyddiadau yma. Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau