Yr hyn y mae angen i chi wneud
Gallwch naill ai:
- Defnyddio contractwr sydd wedi'i gofrestru dan gynllun FENSA sy'n cael ei redeg gan y Glass and Glazing Federation. Os gwnewch hyn, ni fydd angen i chi wneud cais Rheoliadau Adeiladu trwy'r Cyngor. Dylai eich contractwr sicrhau bod eich ffenestri'n cydymffurfio'n llawn â'r Rheoliadau a bydd yn rhoi tystysgrif i chi i gadarnhau hyn pan fydd y gwaith wedi'i orffen. Byddwch hefyd yn cael cynnig gwarant wedi'i yswirio. Gwnewch yn siwr bod eich contractwr wedi'i gofrestru'n briodol dan y cynllun cyn ichi archebu'r gwaith. Gallwch wirio hyn a chael rhagor o fanylion am y cynllun trwy fynd i wefan y Glass and Glazing federation.
- Gwneud cais Rheoliadau Adeiladu i'ch awdurdod lleol. Yn y rhan fwyaf o achosion, y ffordd rwyddaf o wneud hyn yw cyflwyno Hysbysiad Adeiladu. Dylech lenwi a'i dychwelyd i'ch awdurdod lleol, ynghyd â'r ffi briodol, o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn symud yr hen ffenestr(i).
- Os yw popeth yn foddhaol, byddwn yn cymeradwyo'r gwaith ac yn darparu tystysgrif cwblhau. I gael hon, bydd angen i syrfewr ymweld â'ch eiddo i wirio gosodiad y ffenestri newydd.
Y Costau cysylltiedig
Os ydych yn defnyddio contractwr sydd wedi'i gofrestru dan gynllun FENSA, dylai'r gost fod yn glir yn y dyfynbris a gawsoch am y gwaith. Ymhob achos arall, byddwn yn codi arnoch am drin eich cais Rheoliadau Adeiladu. Mae'r wybodaeth am y ffioedd i'w gweld ar y prif dudalen Rheoliadau Adeiladu.
Mae'n bwysig eich bod yn cael y caniatâd angenrheidiol ar gyfer y gwaith, gan y bydd cyfreithwyr yn gwirio hyn yn benodol pan fydd yr eiddo'n cael ei werthu.
Trefnu archwiliad safle trwy ap symudol LABC Powys. Gallwch nawr gysylltu â ni i drefnu archwiliad safle ar eich ffôn symudol unrhyw adeg o'r dydd, sy'n grêt os ydych chi allan neu ar y safle. Llwythwch ein ap archwiliad safle LABC Powys (ar gyfer Apple ac Android) ar eich ffôn symudol. Cyfarwyddiadau yma. Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau