Dehongli Termau Adran 81 Deddf Adeiladau 1984
Cyfnod Perthnasol
Rhaid cyflwyno'r hysbysiad gan yr awdurdod lleol o fewn y 'cyfnod perthnasol'. Os yw'r sawl sy'n cynnig dymchwel adeilad wedi hysbysu'r awdurdod lleol dan Adran 80, yna 6 wythnos o'r cyfnod yna.
Safle Cyfagos
Rhaid i 'berchennog' a 'meddianwr' y safleoedd cyfagos gael copi o'r hysbysiad Adran 81. Mae'n bwysig bod hwn yn cael ei gyflwyno i'r bobl berthnasol er mwyn i bawb y gallai'r sefyllfa effeithio arnynt fod yn ymwybodol ohoni.
Ymgymerwyr Statudol
Oes oes rhaid datgysylltu gwasanaethau unrhyw ymgymerydd statudol yn sgil y gwaith dymchwel, yna rhaid iddo dderbyn copi o'r hysbysiad, h.y. os oes angen datgysylltu un o'r canlynol i wneud y gwaith
- Cyflenwad nwy
- Cyflenwad trydan
- Cyflenwad dwr