Toglo gwelededd dewislen symudol

Caniatâd Hysbysiad Adran 81

Mae'n bosib y bydd angen Hysbysiad Dymchwel dan Adran 81 y Ddeddf Adeiladu ar gyfer pob un neu ambell un o'r gwaith canlynol:

a. Cynnal unrhyw adeilad sy'n gyfagos i'r adeilad y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo.

b. Diogelu rhag y tywydd unrhyw wyneb ar adeilad cyfagos sy'n cael ei agor yn sgil y dymchwel.

c. Atgyweirio a thrwsio unrhyw ddifrod i adeilad cyfagos yn sgil y dymchwel, neu yn sgil gweithredu esgeulus neu hepgor unrhyw un sy'n rhan o'r gwaith dymchwel.

d. Symud deunyddiau neu sbwriel sy'n codi yn sgil dymchwel a chlirio'r safle.

e. Datgysylltu a selio lle bynnag y gallem yn rhesymol ofyn am hynny unrhyw garthffos neu ddraen yn yr adeilad neu dano.

f. Symud unrhyw garthffos neu ddraen, a selio unrhyw garthffos neu ddraen y bydd y garthffos neu'r draen sy'n cael ei symud yn gysylltiedig ag ef.

g. Trwsio i'n boddhad ni wyneb y tir sydd wedi'i aflonyddu gan unrhyw beth a wneir dan baragraffau e) neu f) uchod.

h. Gwneud trefniadau gyda'r ymgymerwyr statudol perthnasol i ddatgysylltu'r cyflenwad nwy, trydan a dwr i'r adeilad.

i. Gwneud trefniadau ar gyfer llosgi strwythurau neu ddeunyddiau ar y safle fel y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl

1.   os yw'r adeilad yn rhan o safle arbennig, dan ofal yr Awdurod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r awdurdod tân, ac
2.   mewn unrhyw achos arall, gan yr awdurdod tân

j. Cymryd camau mewn cysylltiad â'r amodau ar gyfer y dymchwel, a'r cyflwr y disgwylir i'r safle gael ei adael pan fydd y gwaith dymchwel wedi gorffen, fel y gallem ystyried beth sy'n rhesymol angenrheidiol er mwyn diogelu'r cyhoedd.