Hyfforddiant Ymddygiad Heriol ac Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau.
Darparwr y Cwrs: Cartrefi Cymru
Gweinyddydd y Cwrs: Julie Morris
Nod
Gyda'r cwrs hwn bydd yn bosibl dod i ddeall anhwylder ar y sbectrwm awtistig a'r effeithiau cysylltiedig ar unigolion, gan gynnwys effeithiau ar y synhwyrau ac ymddygiad. Bydd yn edrych ar bwysigrwydd adnabod a deall beth sy'n gallu sbarduno ymddygiad heriol ac edrych ar ffyrdd i leihau problemau.
Prif Ddeilliannau Dysgu
- Deall prif nodweddion cyflyrau'r sbectrwm awtistig.
- Gwybodaeth am y Triad o Ddiffygion
- Strategaethau i helpu unigolyn gydag anhwylder ar y sbectrwm awtistig.
- Deall ymddygiad o ran cyfathrebu a gweithredoedd.
- Deall ymyriadau cynradd ac uwchradd
- Deall eich rol chi wrth gyfrannu at gynllun ymddygiad positif.
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
10/09/2019 | NPTC Newtown | 9.30am-4.30pm |
03/10/2019 | Com Room 2, Neuadd Brycheiniog Brecon | 9.30am-4.30pm |
21/01/2020 | Com Room A, The Gwalia, Llandrindod Wells | 9.30am-4.30pm |
19/02/2020 | NPTC Newtown | 9.30am-4.30pm |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses