Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu (Oedolion)
Hyfforddiant gan Autism Wellbeing
Nod
Bydd y cwrs hwn yn helpu'r sawl sydd yno i ddeall dull o weithio sy'n seiliedig ar werthoedd sy'n cynnwys y pedair egwyddor allweddol o hawliau, annibyniaeth, dewis a chynhwysiant er mwyn sicrhau fod pobl ag anableddau dysgu'n derbyn cefnogaeth i fyw fel aelodau gwerthfawr o'u cymunedau.
- Beth yw anabledd dysgu?
- Agweddau tuag at anabledd dysgu
- Enghreifftiau o anabledd dysgu a chyflyrau sy'n cyd-ddigwydd: Awtistiaeth, Syndrom Down, X frau, Parlys yr Ymennydd, GDD, Epilepsi, Iechyd Meddwl
- Rhwystrau sy'n wynebu pobl ag anabledd dysgu
- Cael gwared a lleihau rhwystrau
- Anghenion gofal iechyd pobl ag anabledd dysgu
- Heneiddio gydag anabledd dysgu
- Cyfathrebu
- Hawliau a chyfrifoldebau
- Fy mywyd i: dewisiadau, risgiau, cyfranogiad, agored i niwed, perthynas.
- Sut beth yw gwasanaeth anableddau dysgu da?
Dyddiadau
- 30 Mehefin - 9.30am - 12.30pm
- 9 Tachwedd - 9.30am - 12.30pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses