Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl - Oedolion (deuddydd)
Darparwr y Cwrs Terry Hampton; Cyngor Sir Powys
Gweinyddydd y Cwrs: Julie Morris
Nod
Mae'r rhaglen hon wedi'i chefnogi a'i chymeradwyo gan Lywodraeth y Cynulliad fel rhan o'i strategaeth i hyrwyddo iechyd meddwl da ac atal hunanladdiad.
Fel gyda'r cysyniad cyffredinol o "Gymorth Cyntaf" ni fwriedir i'r rhaglen hon fod ar gyfer ymarferwyr iechyd meddwl arbenigol. Gallai unrhyw un yn eu bywydau beunyddiol ddod ar draws rhywun sydd angen gofal ar unwaith arnynt wrth aros am ofal arbenigol neu helpu'r person i ddod o hyd i gymorth eu hunain.
Perthnasedd i Wasanaethau Plant
Nid yw'r rhaglen yn trafod gofal ar unwaith / brys i blant ond er hynny bydd yn berthnasol iawn i staff gwasanaethau plant sy'n anochel yn dod i gysylltiad ag aelodau o'r teulu ac oedolion eraill sydd efallai â phroblemau iechyd meddwl.
Prif Ddeilliannau Dysgu
- Gwella llythrennedd iechyd meddwl
Adnabod yr arwyddion a'r symptomau mewn rhywun sydd â phroblemau iechyd meddwl
Ymateb, cymell, cefnogi a chyfeirio pobl ymlaen at gymorth proffesiynol priodol
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
TBC |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau