Hyfforddiant Amddiffyn Plant Uwch - darparwyr gofal plant, rheolwyr ac aelodau pwyllgor
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau.
Darparwr y Cwrs: New Pathways
Nod
I bob Darparwr Gofal Plant, Rheolwr ac Aelodau Pwyllgor
Sicrhau fod gan weithwyr gofal plant ddealltwriaeth o natur camdriniaeth ac o'u cyfrifoldebau i atal camdriniaeth ac i ymateb yn effeithiol i bryderon a honiadau o gamdriniaeth bosibl yn unol â pholisi a gweithdrefnau.
Prif Ddeilliannau Dysgu
Erbyn diwedd yr hyfforddiant, bydd y sawl sy'n cymryd rhan wedi ennill
- Dealltwriaeth o'r gweithdrefnau i'w dilyn petai honiad yn cael ei wneud yn erbyn aelod o staff neu wirfoddolwr yn unol â'r gweithdrefnau
- Y gallu i adrodd am y pryderon, amheuon neu honiadau yn unol â'r gweithdrefnau hyn
- Cynefindra gyda rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'r gweithdrefnau
- De alltwriaeth o berthnasedd a fformat y cyfarfodydd strategaeth a'r deilliannau
Hyder i sicrhau fod gan eu lleoliad y polisi, gweithdefnau a dogfennau cefnogi angenrheidiol i ddiwallu gofynion rheoleiddio ac arfer
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
6 Rhagfyr 2019 | NPTC, Y Drenewydd | 9.30am - 4.30pm |
20 Chwefror 2020 | Cartrefi Cymru, Aberhonddu | 9.30am - 4.30pm |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau