Hyfforddiant Fframwaith Asesu Perygl o Ecsploetiaeth Rywiol (SERAF)
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau.
Darparwr y Cwrs:
Better Futures
Nod
- I gyflwyno'r wybodaeth sydd ei hangen ar ofalwyr maeth i ddeall ac ymateb i anghenion plant a phobl ifanc a leolir gyda hwy sydd mewn perygl o ecsploetiaeth rywiol ac sydd angen llety diogel.
- Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol am ecsploetio plant fel mater amddiffyn plant
- Dealltwriaeth o natur y peryglon i blant a phobl ifanc penodol sy'n wynebu ecsploetiaeth rywiol
- Bod yn ymwybodol o sut y caiff plant a phobl ifanc eu heffeithio gan ecsploetiaeth rywiol a deall y gwahanol fathau o ymddygiad y gallant eu harddangos.
Prif Ddeilliannau Dysgu
- Bod yn ymwybodol o beryglon penodol, a all fod yn bresennol i blant a phobl ifanc sy'n cael eu hecsploetio yn rhywiol
- Deall sut y caiff plant a phobl ifanc eu heffeithio
- Deall y broses o feithrin perthynas amhriodol ar-lein/paratoi plentyn i bwrpas rhyw
- Deall yr angen am weithio amlasiantaethol a gallu dynodi anghenion cefnogi ychwanegol pobl ifanc a gofalwyr
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
Ddim |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau