Hyfforddiant Deddf Galluedd Meddyliol (2005) A Budd Pennaf
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau.
Darparwr y Cwrs: Bond Solon
Nod
Mae'r hyfforddiant hwn yn berthnasol i'r holl staff hynny a all fod angen gwneud penderfyniadau o ran oedolion sydd heb y galluedd llwyr i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â dementia, y sawl sydd ag anableddau dysgu a'r sawl sydd â nam ar weithredoedd y corff o ganlyniad i strôc neu anaf ar yr ymennydd.
Deall egwyddorion sylfaenol y Ddeddf
Cynnal asesiadau galluedd meddyliol o ran sefyllfaoedd risg uchel, cymhleth neu ddiogelu. Esbonio'r prawf diagnostig ynghyd â'r prawf ymarferol. Sut y dylid cynnal yr Asesiadau Galluedd Meddyliol, gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau ymarferol perthnasol. Pa gofnodi sydd ei angen fel tystiolaeth gyda'r prawf ymarferol ar alluedd?
Prif Ddeilliannau Dysgu
Cydbwyso peryglon a hawliau lle mae perygl o niwed o ganlyniad i benderfyniadau anoeth yn cael eu gwneud oherwydd natur ddiamddiffyn yr unigolion dan sylw - Trafod awdurdodaeth gynhenid, Llys Gwarchod
Dysgu pwy yw'r "penderfynwr"?
Bod yn gyfarwydd gyda'r syniad o "fudd pennaf", gan gynnwys y Rhestr Wirio Asesu Budd Pennaf, gwerthoedd, credoau, diwylliant ac ati - pwy i'w gynnwys.
Dysgu am rôl yr Eiriolydd Galluedd Meddyliol Annibynnol, Llys Gwarchod, Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus, diogelu a'r Tîm Diogelu rhag Colli Rhyddid
Penderfyniadau sydd wedi'u Dirprwyo - Pwer Atwrnai Parhaol, Pwer Atwrnai Parhaol - Ariannol, Pwer Atwrnai Parhaol - iechyd a lles, Cyfarwyddeb Ymlaen Llaw, Dirprwyon a benodir gan y Llys, Llys Gwarchod - penderfyniadau unigryw
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
TBC |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau