Hyfforddiant Blynyddoedd Rhyfeddol - Rhaglen Babanod
Darparwr y Cwrs: Dr Sue Evans
Gweinyddydd y Cwrs: Sarah Price
Nod
Bydd yr hyfforddiant 2 ddiwrnod hwn yn paratoi'r sawl sy'n cymryd rhan i arwain y rhaglen Babanod Blynyddoedd Rhyfeddol® gyda grwpiau o rieni a'u babanod. Mae'r grwpiau yn helpu rhieni i ddysgu sut i helpu eu babanod i deimlo fel eu bod yn cael eu caru, a'u bod yn ddiogel. Maent yn dysgu sut i annog datblygiad corfforol ac ieithyddol eu babanod. Mae fformat y grwp rhieni yn meithrin rhwydwaith i gyfoedion gefnogi ei gilydd a rhannu dysgu. Mae'r rhaglen hon yn elfen graidd o fewn y rhaglenni rhianta a gyflwynir ym Mhowys ac yn rhan o'r strategaeth 'Blynyddoedd Rhyfeddol®' ym Mhowys sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys rhaglenni i rieni, athrawon a phlant oed cynradd.
Prif Ddeilliannau Dysgu
Bydd y sawl sy'n cymryd rhan yn dysgu sut i gyflwyno'r rhaglen 8 sesiwn hon, sy'n canolbwyntio ar:
- G yflwyno rhianta sy'n meithrin i fabanod
- Darllen awgrymiadau gan fabanod
- Deall anghenion datblygu babanod.
- Cynnig ysgogiad corfforol, cyffyrddol, geiriol a gweledol i annog datblygiad yr ymennydd
- Ymdopi gyda babanod sy'n crio
- Sicrhau diogelwch eich cartref
- Ymdopi gydag anawsterau megis problemau bwydo a newid clytiau/cewynnau
- Bydd arweinyddion yn manteisio ar bresenoldeb babanod yn y grwp i sefydlu arferion.
- Bydd y grwp yn trafod materion megis grymuso rhieni, cydweithio, delio gyda gwrthwynebiad, wynebu a dysgu, cefnogi ac eirioli dros rieni
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
8 a 9 Ionawr 2019 | MRC, Llandrindod, LD1 6AH | 9.30am - 4.00pm |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau