Yr Arweinydd yn llongyfarch Crughywel

19 Tachwedd 2018
Mae Arweinydd Cyngor Sir Powys wedi llongyfarch tref Crughywel am ennill gwobr y dref orau yng Ngwobrau Stryd Fawr Prydain.
Enillodd y dref Wobr Stryd Fawr Orau Prydain 2018 a Stryd Fawr Cymru, a noddwyd gan Visa gan ennill gwobr o £15,000.
"Mae'r wobr yn glod enfawr i'r dref ac yn adlewyrchu'n fawr ar y sir gyfan. Rwy'n llongyfarch pawb fu'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth. Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych", dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris.
"Rydym yn cydymdeimlo â thref Y Trallwng am gyrraedd y rhestr fer ond na gyrhaeddodd y brig."
Dywedodd y Cynghorydd John Morris o Grughywel: "Mae hon yn gamp enfawr i bobl a busnesau Crughywel. Mae clod o'r fath yn dangos bod gan Grughywel rhywbeth i'w gynnig i bob rhan o'r DU.
"Er bod y toriadau i wasanaethau cyhoeddus hefyd wedi cael effaith ar y dref, aeth y bobl ati i dorchi llewys a bwrw ati i sicrhau fod Crughywel yn dref groesawgar, lwyddiannus ac yn ferw o brysurdeb. Hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd mor galed i lunio'r cais ac i'r rhai a ddaeth yn eu cannoedd i baratoi'r dref cyn y beirniadu.
Gwnaed y cyhoeddiad fod Stryd Fawr Crughywel wedi ennill Gwobr Stryd Fawr Orau Prydain 2018 mewn seremoni arbennig yn Lancaster House dydd Iau (15 Tachwedd). Yn bresennol oedd Gweinidog y Stryd Fawr, Jake Berry AS a chynrychiolwyr o'r 37 o strydoedd mawr a gyrhaeddodd y rhestr fer.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, y Gwir Anrhydeddus James Brokenshire: "Llongyfarchiadau i Grughywel a holl enillwyr heddiw yng Ngwobrau Stryd Fawr Orau Prydain. Mae'n bleser gweld cymaint o bobl yn cefnogi eu stryd fawr leol.
Dywedodd Gweinidog y Stryd Fawr Jake Berry AS: "Llongyfarchiadau i Grughywel ar ennill stryd fawr orau'r DU yn y gwobrau eleni.
"Mae'r gwobrau hyn yn dathlu'r gwaith da sy'n cael ei wneud i adfywio, addasu ac arallgyfeirio ein strydoedd mawr ac mae ansawdd y ceisiadau eleni wedi bod yn anhygoel.
"Ar draws y DU, mae'n arwydd clir o benderfyniad cymunedau lleol i gadw'r stryd fawr yn fyw ac iach a gobeithio bydd y gwobrau eleni'n ysbrydoli eraill i wneud yr un fath."