Y Ffair Aeaf 2018

23 Tachwedd 2018
Mae'r cyngor yn falch o gefnogi'r Ffair Aeaf ar Faes y Sioe Frenhinol ar y 26 a 27 Tachwedd.
Os ydych chi'n mynd i'r Ffair Aeaf dewch i'n hadeilad yn Nhŵr Brycheiniog, ger y Ganolfan Groeso/Aelodau. Gallwch brynu nwyddau Nadoligaidd wedi'u cynhyrchu gan fusnesau lleol a chael golwg ar stondin grefftau Nadoligaidd Dragontree gyda nwyddau wedi'u gwneud gan ddefnyddwyr gofal cymdeithasol. Bydd Cymraeg Byd Busnes a'r car hydrogen arloesol Riversimple hefyd ar y stondin.
Mae hefyd raffl am ddim i ennill profiad yn y car Riversimple, pâr o docynnau ar gyfer Gŵyl y Gwanwyn a basged o nwyddau gan Dragontree.
Dilynwch ni ar Twitter a Facebook am y newyddion diweddaraf o'r digwyddiad.