Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheoli Adeiladu

Building approval icon

Hysbysiad Cyhoeddus - O 6 Ebrill 2024 bydd Ffioedd Rheoliadau Adeiladu yn cynyddu.  Bydd y ffioedd newydd ar gael i'w gweld ar 6 Ebrill 2024.

Newidiadau i Reoliadau Adeiladu
Mae'r ffordd y mae gwasanaethau Rheoleiddio Adeiladu ym Mhowys yn cael eu darparu, yn newid.
Beth sy'n digwydd?
O 6ed Ebrill 2024, bydd pob syrfëwr Rheoli Adeiladu yn gweithredu o dan drwydded. Bydd dosbarth o drwydded a ddelir yn pennu'r math o waith adeiladu y gall pob syrfëwr ei oruchwylio.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae hyn yn golygu y gall y syrfewyr rydych fel arfer yn delio â nhw amrywio yn dibynnu ar y math o brosiect adeiladu rydych chi'n gweithio arno.Un o ofynion pellach y drwydded yw na all syrfewyr Rheoli Adeiladu ddarparu cyngor dylunio ar brosiectau y maent yn eu goruchwylio mwyach.
Ar pwy fydd hyn yn effeithio?
P'un a ydych yn asiant neu'n adeiladwr, y disgwyliad fydd bod gennych ddealltwriaeth drylwyr o'r gofynion Rheoliadau Adeiladu sy'n ymwneud â'ch prosiect adeiladu, heb yr angen i ofyn am ganllaw gan y tîm Rheoli Adeiladu, fydd o 6ed Ebrill ddim yn gallu'ch cynorthwyo ynghylch sut i gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses newydd o drwyddedu syrfewyr Rheoli Adeiladu, cysylltwch â ni.