Trefnu sesiwn galw heibio i drafod llifogydd Crughywel

27 Tachwedd 2018
Bydd trigolion o Grughywel a'r cyffiniau'n cael cyfle i drafod ymateb asiantaethau i'r llifogydd diweddar mewn sesiwn taro heibio yr wythnos nesaf.
Bydd Cyngor Sir Powys a'i bartneriaid yn trefnu sesiwn galw heibio yn Ysgol Uwchradd Crughywel ddydd Mawrth, 4 Rhagfyr 2018 rhwng 6 a 8pm.
Mae'r cyngor wedi trefnu'r sesiwn galw i mewn i roi cyfle i drigolion yng nghyffiniau Crughywel a Llangatwg i drafod yr ymateb diweddar i lifogydd yn yr ardal yn ystod Storm Callum.