Grantiau ar gael i ddatblygu chwaraeon ar lawr gwlad led led Powys

29 Tachwedd 2018
Grantiau ar gael i ddatblygu chwaraeon ar lawr gwlad led led Powys
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi fod dros £1000 wedi cael ei gyflwyno i nifer o sefydliadau chwaraeon led led y sir.
Mae grwpiau chwaraeon a gweithgareddau corfforol ym Mhowys yn cael eu hannog erbyn hyn gan Dîm Datblygu Chwaraeon y cyngor i fanteisio ar grant sydd werth hyd at £1,500 i helpu cyfrannu tuag at greu clybiau ffyniannus a fydd yn parhau i greu cyfleoedd trwy fenter a dyfeisgarwch.
Mae'r grantiau wedi'u dylunio i wneud gwahaniaeth i chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn lleol trwy Gist Gymunedol Sportlot, sef cynllun cymorth grant Cyngor Chwaraeon Cymru a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Gydag ychydig dros £20,000 ar gael yn unig ar gyfer cyfarfod olaf y flwyddyn ariannol hon, mae'r cyngor yn annog sefydliadau i gyflwyno ceisiadau fel na fyddant yn colli'r cyfle i dderbyn y grant.
Mae'r sefydliadau llwyddiannus diwethaf sydd wedi derbyn nawdd grant yn cynnwys:
• Clwb Pêl-droed Aberriw: £1,430 tuag at addysgu hyfforddwyr a chyfarpar
• Clwb Bowlio Llanfair-ym-Muallt: £440 tuag at offer ac i sefydlu a rhedeg sesiynau hyfforddi iau newydd yn y clwb
• Clwb Pêl-rwyd Iau Llanfair-ym-Muallt: £803 tuag at addysgu hyfforddwyr a llogi cyfleuster
• Eppynt Carriage Club Ltd: £420 tuag at gyfarpar
• Clwb Pêl-droed Iau Forden United: £571 tuag at addysgu hyfforddwyr a chyfarpar
• Neuadd Gymunedol Llanbister: £1,500 tuag at ffioedd hyfforddwyr a chyfarpar
• Clwb Gymnasteg Llanidloes: £1,500 tuag at addysgu hyfforddwyr
• Clwb Bowlio, Cymdeithasol a Snwcer Y Drenewydd: £937 tuag at offer a hysbysebu
• Clwb Pêl-droed Iau Rhaeadr Gwy: £738 tuag at addysgu hyfforddwyr, llogi cyfleuster ac offer
• Clwb Pêl-droed Trewern: £250 tuag at addysgu hyfforddwyr
• Clwb Pêl-droed Iau Y Trallwng: £1,485 tuag at gyfarpar
Dywedodd y Cyng. Rachel Powell, Aelod o'r Cabinet dros Faterion Datblygu Chwaraeon: "Rwyf wrth fy modd i allu gwobrwyo'r grantiau hyn i'r saith clwb, a fydd yn eu helpu i ffynnu a gwneud gwahaniaeth i weithgaredd corfforol a chwaraeon yn eu hardal.
"Gydag ychydig dros £20,000 yn weddill ar gyfer hyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, rwy'n annog sefydliadau i gyflwyno ceisiadau fel na fyddant yn colli'r cyfle am y nawdd grant hwn."
Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 17 Ionawr, 2019. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Datblygu Chwaraeon y cyngor ar 01686 614060 neu anfonwch e-bost at angela.williams@powys.gov.uk
Gellir lawr lwytho ffurflenni cais oddi ar wefan Chwaraeon Cymru www.sportwales.org.uk