Parcio Nadolig

29 Tachwedd 2018
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi y bydd parcio am ddim ar gael ym meysydd parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Powys am ddau ddiwrnod siopa allweddol yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.
Mae'r fenter sydd yn hwyl yr Ŵyl, yn dilyn cynlluniau parcio am ddim llwyddiannus blaenorol ac yn darparu parcio am ddim ar ddydd Sadwrn 15 a dydd Sadwrn 22 Rhagfyr rhwng 10am - 6pm.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau y bydd menter parcio am ddim y cyngor yn rhedeg yn ystod dau ddiwrnod siopa allweddol yn y cyfnod cyn y Nadolig.
"Rydyn ni'n gwybod y bydd y cynllun yn cael ei groesawu gan siopwyr a busnesau fel ei gilydd a bydd yn rhoi hwb amserol i economi'r sir yn ystod cyfnod siopa prysuraf y flwyddyn.
"Mae economi'r sir yn hanfodol i bawb a gall y cyfnod dros yr ŵyl wneud gwahaniaeth go iawn i fusnesau di-ri, felly bydd unrhyw help i gynyddu gwariant yn werth chweil."
Mae'r fenter yn berthnasol i feysydd parcio oddi ar y stryd yn unig ac nid yw'n newid cyfyngiadau parcio ar y stryd. Bydd parcio am ddim am hyd at ddwy awr o barcio'n unig mewn meysydd parcio cyfnodau byr.