Hwb i gludiant lleol Powys

7 Rhagfyr, 2018
Mae Cyngor Sir Powys wedi sicrhau grantiau o £1.8m i helpu i gyllido cynlluniau cludiant lleol yn y sir.
Bydd y cyngor yn derbyn £1.81m o Gyllid Cludiant Lleol Llywodraeth Cymru i brynu bysiau cludiant cyhoeddus newydd, i wella llwybrau ar hyd dwy gamlas bwysig yn y sir ac i wneud cynnydd gyda dau brosiect teithio llesol mewn dwy dref yn Powys.
Bydd naw o fysiau newydd yn cael eu prynu ar gyfer gwasanaeth bysiau TrawsCymru sy'n rhedeg yn y sir, diolch i £1.55m i wella'r ddarpariaeth bysiau yn ym Mhowys.
Bydd £200,000 yn cael ei ddefnyddio i wella llwybrau ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu a Chamlas Sir Drefaldwyn, a £60,000 ar gael i wella prosiectau teithio llesol yn Aberhonddu a Machynlleth.
Dywedodd y Cyng Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Cludiant Cyhoeddus: "Rwy'n falch fod y cyngor wedi llwyddo i sicrhau dros £1.5m gan Lywodraeth Cymru i wella darpariaeth bysiau'r sir trwy brynu bysiau newydd.
"Bydd profiadau teithiau bysiau i deithwyr sy'n defnyddio gwasanaeth TrawsCymru'n gwella pan fyddwn wedi prynu'r bysiau newydd ac rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn denu rhagor o bobl i ddefnyddio'r gwasanaeth cludiant cyhoeddus pwysig yma."
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae camlesi Sir Fynwy ac Aberhonddu a Sir Drefaldwyn yn gyrchfannau twristiaeth pwysig felly ry'n ni'n croesawu'r arian yma a fydd o fudd i ymwelwyr sy'n cerdded ar hyd llwybrau'r camlesi.
"Mae teithio llesol yn bwysig i'r cyngor gan ei fod yn galluogi pobl Powys i gerdded a beicio a gwneud hynny'n ddiogel. Bydd y cyllid yn ein helpu ni i gyflawni ein dyheadau i wella cyfleusterau teithio llesol yn Aberhonddu a Machynlleth."