1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad:Taliadau am gasglu gwastraff swmpus i godi
Darllen mwy

Ymgysylltu - eich barn ar lesiant

Image cynrychioli Ymgysylltu - eich barn ar lesiant

 

Mae ymgysylltu ac ymgynghori yn rhan hanfodol o lunio Cynllun Llesiant sy'n addas i'r diben. Cafodd dros 300 o setiau data eu dadansoddi ar ystod amrywiol o bynciau i greu a llunio darlun o fywyd ym Mhowys.

Engagement Feedback [811KB]

Engagement Feedback

Yna fe wnaethom ymgynghori ar dri cham:

  • Cam I - Chwefror 2017
  • Cam II - Gorffennaf 2017
  • Cam III - Tachwedd 2017 - Chwefror 2018

 

Cam I:

Fe wnaethom ni flaenoriaethu 31 o broblemau a gofyn i'n cydweithwyr herio hyn trwy ddau weithdy a gynhaliwyd fis Tachwedd 2016.  Yna fe wnaethom adolygu'r asesiad a mynd ag ef allan i'r cymunedau a'i gyhoeddi ar-lein hefyd.

Fe wnaethom ofyn i chi:

  • Beth yw ystyr llesiant i chi?
  • Ydy'r pethau rydyn ni wedi'u cynnwys yn yr asesiad yn ymddangos yn gywir?
  • Beth sydd ar goll?
  • O'r 31 blaenoriaeth, pa bump fyddech chi'n dewis i'w gosod ar y brig?
  • A fydden nhw'n wahanol o gwbl pe baech chi'n meddwl am y gymuned rydych yn byw ynddi?
  • Pa gyfrifoldeb ddylai pobl ei gael o ran eu llesiant eu hunain?

Cam II

Fe wnaethom gynllunio ein gweledigaeth a'r pedwar amcan allweddol a cheisio barn trwy arolwg ar-lein yn ystod Gorffennaf 2017 a chysylltu â rhai o'r grwpiau cymunedol o Gam 1 i ddarganfod beth oedd eu barn.

Cam III

Fe wnaethom ni gynhyrchu cynllun drafft gyda 15 o gamau llesiant a'i gyflwyno i'r cymunedau i geisio'u barn. 

Fe wnaethom ofyn i chi:​​​​​​​

  • Ai'r rhain yw'r camau iawn i Bowys?
  • Ydych chi'n credu y byddant yn gwneud gwahaniaeth i chi, eich cymuned a'r sir?
  • Beth yw eich barn am y syniadau sydd wedi'u rhestru ar gyfer pob cam?
  • Pa syniadau hoffech chi eu cynnig? 
  • O gorau i sesiynau taro heibio yn y llyfrgelloedd, stondinau marchnad a sgyrsiau yn yr archfarchnad, fe wnaethom ni geisio barn ar amrywiaeth eang o drigolion a chyflwyno'r safbwyntiau hyn i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Mae'r dudalen hon yn dangos rhai o'r prif weithgareddau ymgysylltu a drefnwyd yn ystod y tri cham.

This page shows some of the key engagement activities undertaken during the three phases.

 

Gwylio eich barn ar yr asesiad​​​​​​​

Dywedodd pobl ifanc​​​​​​​

Gan mai Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yw enw'r Ddeddf, pobl ifanc oedd un o rannau allweddol y gynulleidfa darged ym Mhowys. Holwyd Fforwm Ieuenctid Powys am farn ei aelodau ar y Ddeddf, a thaflwyd rhywfaint o oleuni ar yr hyn yr oedd yn ei olygu yn 2015. Rhannodd pobl ifanc eu barn ar:

  • yr hyn yr oedd llesiant yn ei olygu iddyn nhw,
  • yr hyn oedd yn effeithio ar eu llesiant,
  • sut yr oedd eu llais yn cael ei glywed gartref, a
  • beth oedd angen ei newid i wella llesiant ym Mhowys 

 

Ers hynny, mae Fforwm Ieuenctid Powys wedi arwain gyda'r gwaith o ymgysylltu â phobl ifanc eraill ar hyd a lled y sir, ac wedi creu a cheisio barn trwy ddefnyddio arolwg ar-lein a phecyn gweithgareddau ysgol sydd wedi arwain at gynhyrchu'r dogfennau canlynol.

Lawrlwythwch boster 'Our Future Powys' yma [174KB]

Read the report on young people's well-being survey here [710KB]

Gwrando ar farn yr Ieuenctid yma

 

Digwyddiad lansio ar gyfer yr ymgynghoriad 12-wythnos​​​​​​​

Fe wnaethom ni lansio'n hymgynghoriad 12-wythnos trwy gynnal cynhadledd Diwrnod Dweud Eich Dweud i bobl ifanc ar draws Powys.

Daeth oddeutu 100 disgybl o rai o'r ysgolion cynradd ac uwchradd i'r diwrnod, gan gymryd rhan mewn gweithdai oedd yn canolbwyntio ar rai o'r camau llesiant.  O brentisiaethau i iechyd meddwl, rhoddodd pobl ifanc eu barn ar yr hyn sydd o bwys iddyn nhw, a'r hyn yr hoffent ei weld yn y dyfodol.

Darllenwch yr adroddiad ar y digwyddiad [2MB]

Gwyliwch ein fideo byr

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu