Ymgysylltu - eich barn ar lesiant

Mae ymgysylltu ac ymgynghori yn rhan hanfodol o lunio Cynllun Llesiant sy'n addas i'r diben. Cafodd dros 300 o setiau data eu dadansoddi ar ystod amrywiol o bynciau i greu a llunio darlun o fywyd ym Mhowys.
Yna fe wnaethom ymgynghori ar dri cham:
- Cam 1 - Chwefror 2017
- Cam 2 - Gorffennaf 2017
- Cam 3 - Tachwedd 2017 - Chwefror 2018
Cam 1:
Fe wnaethom ni flaenoriaethu 31 o broblemau a gofyn i'n cydweithwyr herio hyn trwy ddau weithdy a gynhaliwyd fis Tachwedd 2016. Yna fe wnaethom adolygu'r asesiad a mynd ag ef allan i'r cymunedau a'i gyhoeddi ar-lein hefyd.
Fe wnaethom ofyn i chi:
- Beth yw ystyr llesiant i chi?
- Ydy'r pethau rydyn ni wedi'u cynnwys yn yr asesiad yn ymddangos yn gywir?
- Beth sydd ar goll?
- O'r 31 blaenoriaeth, pa bump fyddech chi'n dewis i'w gosod ar y brig?
- A fydden nhw'n wahanol o gwbl pe baech chi'n meddwl am y gymuned rydych yn byw ynddi?
- Pa gyfrifoldeb ddylai pobl ei gael o ran eu llesiant eu hunain?
Cam 2
Fe wnaethom gynllunio ein gweledigaeth a'r pedwar amcan allweddol a cheisio barn trwy arolwg ar-lein yn ystod Gorffennaf 2017 a chysylltu â rhai o'r grwpiau cymunedol o Gam 1 i ddarganfod beth oedd eu barn.
Cam 3
Fe wnaethom ni gynhyrchu cynllun drafft gyda 15 o gamau llesiant a'i gyflwyno i'r cymunedau i geisio'u barn.
Fe wnaethom ofyn i chi:
- Ai'r rhain yw'r camau iawn i Bowys?
- Ydych chi'n credu y byddant yn gwneud gwahaniaeth i chi, eich cymuned a'r sir?
- Beth yw eich barn am y syniadau sydd wedi'u rhestru ar gyfer pob cam?
- Pa syniadau hoffech chi eu cynnig?
- O gorau i sesiynau taro heibio yn y llyfrgelloedd, stondinau marchnad a sgyrsiau yn yr archfarchnad, fe wnaethom ni geisio barn ar amrywiaeth eang o drigolion a chyflwyno'r safbwyntiau hyn i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Mae'r dudalen hon yn dangos rhai o'r prif weithgareddau ymgysylltu a drefnwyd yn ystod y tri cham.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys rhai o'r prif weithgareddau ymgysylltu a wnaed yn ystod y tri cham.
Gwylio eich barn ar yr asesiad
Dywedodd pobl ifanc
Gan mai Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yw enw'r Ddeddf, pobl ifanc oedd un o rannau allweddol y gynulleidfa darged ym Mhowys. Holwyd Fforwm Ieuenctid Powys am farn ei aelodau ar y Ddeddf, a thaflwyd rhywfaint o oleuni ar yr hyn yr oedd yn ei olygu yn 2015. Rhannodd pobl ifanc eu barn ar:
- yr hyn yr oedd llesiant yn ei olygu iddyn nhw,
- yr hyn oedd yn effeithio ar eu llesiant,
- sut yr oedd eu llais yn cael ei glywed gartref, a
- beth oedd angen ei newid i wella llesiant ym Mhowys
Ers hynny, mae Fforwm Ieuenctid Powys wedi arwain gyda'r gwaith o ymgysylltu â phobl ifanc eraill ar hyd a lled y sir, ac wedi creu a cheisio barn trwy ddefnyddio arolwg ar-lein a phecyn gweithgareddau ysgol sydd wedi arwain at gynhyrchu'r dogfennau canlynol.
Gwrando ar farn yr Ieuenctid yma
Digwyddiad lansio ar gyfer yr ymgynghoriad 12-wythnos
Fe wnaethom ni lansio'n hymgynghoriad 12-wythnos trwy gynnal cynhadledd Diwrnod Dweud Eich Dweud i bobl ifanc ar draws Powys.
Daeth oddeutu 100 disgybl o rai o'r ysgolion cynradd ac uwchradd i'r diwrnod, gan gymryd rhan mewn gweithdai oedd yn canolbwyntio ar rai o'r camau llesiant. O brentisiaethau i iechyd meddwl, rhoddodd pobl ifanc eu barn ar yr hyn sydd o bwys iddyn nhw, a'r hyn yr hoffent ei weld yn y dyfodol.