Y Cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd am y gyllideb

11 Rhagfyr 2018
Mae Cyngor Sir Powys yn wynebu toriadau i'r gwasanaeth a cholli swyddi wrth iddo geisio mantoli'r gyllideb yn dilyn toriad arall yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mi fydd cynghorwyr yn cael gwybod bod y sir yn wynebu £14m o fwlch yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dod, yn dilyn rownd cyllid siomedig arall - y gwaelaf un, neu'r gwaelaf ar y cyd yng Nghymru mewn naw o'r 10 mlynedd diwethaf.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, y Cynghorydd Aled Davies; "Yn ddealladwy, bydd trigolion yn chwith o glywed bod y cyngor yn wynebu rownd arall o doriadau i'r gwasanaeth er gwaethaf tocio'i wariant o £100m yn ystod y cyfnod dan sylw.
"Wedi degawd o gyllidebau gwael mae'n rhaid i ni weithio'n galetach fyth i ddod o hyd i feysydd lle mae modd arbed arian. Mae'r swyddogion yn mynd trwy'r un broses yn chwilio am ragor o ffyrdd i gynyddu'r incwm, newid y ffordd y byddwn yn cyflwyno gwasanaethau i wneud arbedion, ac yn anffodus, mewn ambell faes, lleihau neu gau'r gwaith.
"Mae'n rhaid i ni edrych ar bopeth - yr adeiladau rydym yn eu defnyddio, y costau swyddfa gefn a staffio. Ry'n ni wedi bod yn tocio'r gwasanaethau lle gallwn yn ein brwydr yn erbyn y toriadau llym a pharhaus i'n cyllid. Ond wedi degawd o doriadau, ry'n ni wedi cyrraedd pwynt lle mae'n rhaid i rywbeth gael ei ollwng. Does dim modd i ni barhau i gyllido'r cyngor oedd gennym yn y gorffennol.
"Mae'n rhaid i ni barhau i gyflenwi ein gwasanaethau statudol pwysig megis addysg a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, maen nhw'n amsugno mwy na 70% o'n cyllideb net flynyddol o £247m ond mae'n rhaid i ni sylweddoli na fydd y gwasanaethau hyn yn ddiogel rhag y toriadau.
"O ganlyniad i wariant uchel ar wasanaethau statudol, y gwasanaethau disgresiynol, gan gynnwys meysydd fel y celfyddydau, diwylliant a llyfrgelloedd sydd ag elfen rhannol statudol yn unig, sy'n gorfod ysgwyddo baich y toriadau gwasanaeth. Mewn ambell ran o'r DU, dim ond y gwasanaethau statudol y mae'r cynghorau'n eu cyllido beth bynnag."
Ymhlith y cynigion ar gyfer y gyllideb mae:
- Cyllidebau ysgol - mae'r rhain yn parhau i fod dan bwysau ariannol o ganlyniad i godiad cyflog athrawon a chostau pensiwn uwch. Bydd hyn yn anochel yn arwain at ragor o ddiswyddiadau ymhlith athrawon a staff nad ydynt yn dysgu.
- Colli swyddi - rydym yn amcangyfrif y bydd bron 50 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn diflannu gan fod y rhan fwyaf o'n costau yn ymwneud â phobl
- Lleihau gwasanaethau - bydd llai o swyddogion cynllunio, rheoli adeiladu, ac iechyd yr amgylchedd yn lleihau gallu'r gwasanaethau, gan arwain at oedi cyn caniatáu neu gymeradwyo, ac arolygu'n llai aml
- Priffyrdd - bydd cyflwr ein rhwydwaith ffyrdd helaeth yn gwaethygu wrth i'r cyllidebau cynnal a chadw gael eu torri
- Cyflwyno neu gynyddu ffioedd am rai gwasanaethau cyhoeddus (mynwentydd, gwastraff o'r ardd, parcio ac ati)
- Lleihau a thynnu'n ôl yr arian grant ar gyfer sefydliadau allanol
- Parhau i werthu asedau
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau effeithlon i'n preswylwyr, ond mae toriadau parhaus i'r gyllideb yn gwneud ein tasg yn un lawer mwy anodd. Mae'n anochel y bydd treth y cyngor yn cynyddu ar adeg pam mae'r gwasanaethau'n crebachu," ychwanegodd.