Proses cyn cyflwyno cais yn dechrau

11 Rhagfyr 2018
Mae gwahoddiad yn cael ei roi i drigolion y Trallwng i gyflwyno eu sylwadau ar gynlluniau arfaethedig ar gyfer yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar gyn safle Maesydre yn y dref.
Bydd gwybodaeth am y cynllun ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn ar gyfer Ysgol Gymraeg y Trallwng yn cael ei chyhoeddi o ddydd Llun (17 Rhagfyr) am bum wythnos fel rhan o'r broses gynllunio cyn gwneud cais.
Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i roi eu sylwadau ar y cynlluniau cyn bod cais cynllunio llawn yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Powys yn y Flwyddyn Newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet ar faterion Dysgu a'r Iaith Gymraeg: "Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol arall yn y prosiect pwysig yma sy'n sail i ymrwymiad y Cyngor i roi cyfleoedd i deuluoedd ledled Powys gael budd o addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r cynlluniau cyffrous yma'n cyfuno ardaloedd dysgu'r Unfed Ganrif ar Hugain gyda pharch tuag at dreftadaeth leol."
Y mis diwethaf, cafodd degau o ymwelwyr y cyfle i gwrdd â'r contractwyr Dawnus, y penseiri Architype, staff Cyngor Sir Powys a Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru a golwg cyntaf ar y cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd.
Dangosodd y cynlluniau prosiect arloesol ac unigryw ar gyfer y dref, gydag ysgol yr Unfed Ganrif ar Hugain yn cael ei datblygu ochr yn ochr ag adeilad hanesyddol.
Os caiff ei chymeradwyo, yr ysgol newydd fydd adeilad hybrid cyntaf y sir gyda phensaernïaeth Passivhous newydd sbon yn mynd law yn llaw gydag adeilad hanesyddol wedi'i rhestru. Bydd yn cynnwys cynlluniau modern ar gyfer yr ystafelloedd dosbarth, ardal weinyddol a darpariaeth blynyddoedd cynnar.
Disgwylir y bydd yr ysgol newydd a fydd yn darparu ar gyfer 150 o ddisgyblion yn agor ym mis Medi 2020.