Erlyn cwmni a chyfarwyddwr tai am droseddau priffyrdd

14 Rhagfyr 2018
Mae gwneud gwaith ar briffordd gyhoeddus heb ganiatâd wedi costio dros £4,300 i gwmni datblygu tai a'i gyfarwyddwr ar ôl cael eu herlyn gan y cyngor sir.
Ymddangosodd Tanat Valley Developments Ltd a chyfarwyddwr y cwmni David Jones o Lanfyllin gerbron Llys Ynadon Llandrindod ar ddechrau'r mis (5 Rhagfyr) ar ôl cael eu herlyn gan dîm Gweithrediadau Priffyrdd y cyngor.
Clywodd Ynadon bod y cyngor wedi derbyn cwyn am gau ffordd yn ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar y B4580. Ar 2 Tachwedd 2018 aeth swyddogion o Dîm Rheoli Datblygu'r Priffyrdd i'r safle i ymchwilio.
Ar y safle, roedd rhywun wedi cloddio i mewn i'r ffordd fawr ac wedi creu cwrbyn. Gwelwyd hefyd fod cryn dipyn o waith cloddio wedi mynd ymlaen gan adael twmpath uchel o ddeunydd a cheblau agored heb fesurau diogelu cerddwyr.
Hefyd, clywodd Ynadon y crëwyd mynediad ger y ffordd fawr. Sylwodd swyddogion na ddefnyddiwyd bitumen ar y wyneb a bod rwbel a mwd yn cael ei lusgo o'r safle i'r ffordd fawr. Mae o leiaf un golau stryd wedi cael ei symud heb unrhyw ganiatâd gan y cyngor fel yr awdurdod priffyrdd.
Hefyd, sylwodd Swyddogion ar waith cloddio amlwg ar ffordd y B4580 ar y safle oedd wedi'i lenwi nôl gan ddefnyddio pridd, a oedd yn berygl i ddefnyddwyr y ffordd, gan gynnwys cerddwyr. Ni chafwyd unrhyw rybudd o flaen llaw o'r gwaith ac nid oedd unrhyw rwystrau i ddiogelu'r cyhoedd rhag cerbydau.
Plediodd David Jones, cyfarwyddwr y cwmni'n euog a chael dirwy o £265 yr un am ddwy drosedd (wedi'i ostwng o £400 oherwydd iddo bledio'n euog yn gynnar), ei orchymyn i dalu £786 o gostau a £30 o ordal i ddioddefwyr.
Derbyniodd y cwmni gosb ariannol o £400 yr un am bedair trosedd (wedi'i ostwng o £600 oherwydd iddynt bledio'n euog yn gynnar) a dirwy o £500 (eto wedi'i ostwng o £750) am un drosedd. Bydd rhaid i'r cwmni hefyd talu £786 o gostau a £100 o ordal i ddioddefwyr.
Mae'r ddau ddiffynnydd yn destun gorchymyn casglu sy'n golygu bod rhaid talu'r cyfan yn llawn o fewn 28 diwrnod.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod o'r Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae'n rhaid cael caniatâd y cyngor i wneud unrhyw waith ar y ffordd fawr er mwyn sicrhau bod y gwaith yn dderbyniol, i'r safon angenrheidiol a bod y gymuned yn ymwybodol o flaen llaw pryd fydd y gwaith yn cychwyn.
"Mae hefyd yn hanfodol fod defnyddwyr y ffyrdd a'r cyhoedd yn cael eu gwarchod dros gyfnod y gwaith.
"Yn yr achos hwn, fe wnaeth y datblygwr fwrw ymlaen gyda'r gwaith heb ein caniatâd ni. Nid oedd dewis ond erlyn. Dylai hyn fod yn rhybudd i unrhyw un sy'n ystyried gwneud unwaith waith ar y ffordd fawr y gallan nhw gael eu herlyn os nad oes ganddynt ganiatâd."